Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1.1 Ymagweddau mewn Camau

Pan fydd yn rhaid i chi ddeall y wybodaeth yn wirioneddol neu pan fyddwch yn ei chael hi’n anodd deall y cynnwys, gallai mabwysiadu ymagwedd ‘mewn camau’ tuag at eich darllen helpu. Mae SQ3R yn un ymagwedd mewn camau o’r fath - ymagwedd pum cam tuag at ddarllen yn fwy effeithiol (gweler Ffigur 1). Er na fyddwch bob amser am fabwysiadu SQ3R yn llawn, efallai y bydd rhai o’r camau yn ddefnyddiol i chi. Y camau yw: bwrw golwg dros y gwaith, cwestiynu, darllen, dwyn i gof, adolygu.

  1. Bwrw golwg dros y testun - cyn i chi ddechrau, edrychwch ar strwythur y deunydd (a oes penawdau, diagramau, tablau a allai fod yn ddefnyddiol i chi?)
  2. Cwestiynu - ceisiwch gwestiynu am beth y mae’r deunydd yn sôn. Gofynnwch i chi’ch hun: Pwy? Beth? Ble? Pryd? Pam? Sut? Os bydd eich cwrs yn rhoi cwestiynau i chi eu hystyried wrth ddarllen neu wrando ar y deunydd, cadwch hwy wrth law.
  3. Darllen (neu wrando) - ceisiwch ddarllen a gwrando mewn ffordd hamddenol ond penodol. Peidiwch â gwneud nodiadau os bydd yn amharu ar eich dealltwriaeth.
  4. Dwyn i gof - profwch eich cof o’r hyn rydych newydd ei ddarllen neu wrando arno. Nodwch ar bapur yr hyn y gallwch ei gofio heb edrych ar y testun.
  5. Adolygu - ewch yn ôl i’r testun a’i ddarllen eto, gan wneud nodiadau cryno y tro hwn. Dychmygwch sut y gallech egluro beth rydych wedi ei ddarllen i rywun arall.
Ffigur 1 Techneg SQ3R. Un ffordd o sicrhau eich bod yn darllen deunyddiau eich cwrs yn effeithiol

Gall y dechneg ‘aros-adolygu’ eich helpu hefyd wrth ddarllen. Mae hyn yn golygu cyfnodau byr o ddarllen a defnyddio cwestiynau i adolygu’r hyn rydych newydd ei ddarllen. Gallwch naill ai ddefnyddio’r cwestiynau a restrir isod neu ysgrifennu eich cwestiynau chi eich hun sy’n fwy priodol.

  • Beth yw’r prif syniad(au)?
  • Faint sydd angen i chi ei gofio?
  • Faint o fanylion sydd angen i chi eu nodi?
  • A oes gennych farn ar yr hyn sy’n cael ei ddweud? (… os yw’n briodol cael barn.)
  • Sut y byddech yn egluro yn eich nodiadau beth yw eich barn chi eich hun?

Ar ôl ychydig o baragraffau defnyddiwch eich cwestiynau i’ch tywys wrth i chi wneud nodiadau. Yna parhewch i ddarllen gan ddefnyddio’r un dechneg.