Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Darllen gweithredol

Llunnir deunyddiau cyrsiau’r Brifysgol Agored i’ch annog i ddarllen yn weithredol. Er enghraifft, mae gan lawer o destunau ganlyniadau dysgu ar gyfer pob pennod neu adran. Cadwch y canlyniadau hyn mewn cof wrth i chi ddarllen, a chymerwch eich amser i’w hadolygu unwaith y byddwch wedi gorffen astudio’r deunydd. Yn aml mae asesiad ynghlwm wrth ganlyniadau dysgu.

'Doeddwn i ddim fel petawn i’n gallu gwneud synnwyr o’r geiriau. Mae’n rhaid fy mod i wedi darllen yr un darn sawl gwaith.'

Yn aml mae llyfrau cyrsiau yn ymgorffori cwestiynau hunanasesu sy’n eich annog i fyfyrio ar yr hyn rydych newydd ei ddarllen. Yn yr un modd, llunnir y deunyddiau clyweledol i roi eich gallu i feirniadu ar waith wrth i chi wylio a gwrando.

Ceisiwch ymddiddori mewn popeth rydych yn ei ddarllen ac yn gwrando arno. Mae’n rhy hawdd gwrando ar rywbeth neu ei ddarllen mewn modd goddefol a sylweddoli wedyn nad ydych yn ei gofio. Mae sawl strategaeth amrywiol ar gyfer sicrhau eich bod yn canolbwyntio. Un ohonynt yw meddwl am un nod penodol wrth ddarllen, er enghraifft, ‘Dwi am ddysgu sut y caiff y ddamcaniaeth hon ei thrin gan y person hwn’ (gweler Adran 1.1, Eich strategaeth). Un arall yw ceisio cymhwyso’r hyn rydych yn ei ddarllen at bethau sydd eisoes yn gyfarwydd i chi, naill ai o rannau cynharach o’ch cwrs neu o’ch bywyd, er mwyn deall y mater yn well. [Ceisiwch ymddiddori mewn popeth rydych yn ei ddarllen ac yn gwrando arno.]

Yn anad dim dylech anelu at allu deall y deunydd rydych yn ei ddarllen.