1.3 Darllen yn feirniadol
Bydd eich cwrs yn cynnwys amrywiaeth o ddeunydd o ffynonellau gwahanol. Ceisiwch ymdrin â’r cyfan gyda gwrthrychedd sy’n caniatáu i chi wahanu dadleuon wedi eu hategu’n dda oddi wrth farn ddi-sail. Efallai y bydd angen i chi feirniadu rhywfaint o’r deunydd a gewch. Bydd dysgu darllen pethau yn feirniadol hefyd yn eich helpu i fyfyrio ar sut y gallech gynhyrchu eich dadleuon eich hun sydd wedi eu hategu’n dda.
'Canolbwyntiais mor galed ar ddarllen fel bod fy holl ymdrech fel ‘petai ar ‘ganolbwyntio’ ac nid ar feddwl na dehongli’r hyn roeddwn i’n ei ddarllen.'
Gall nodau’r testun a’r hyn y mae’n gobeithio ei gadarnhau gael eu nodi hawsaf yn aml ar ddechrau’r darn ac ar ei ddiwedd. Gallech hefyd geisio darllen clawr cefn llyfr neu’r dudalen gydnabyddiaeth: gallai’r rhain roi rhywfaint o gefndir i chi am yr awdur.
Defnyddiwch gwestiynau i’ch helpu i archwilio deunydd yn feirniadol. Mae’r dull hwn yn arbennig o werthfawr ar gyfer deunydd nad yw wedi cael ei adolygu gan gymheiriaid (nad yw wedi cael ei roi gerbron panel golygyddol o arbenigwyr cyn iddo gael ei gyhoeddi). Gallwch ddefnyddio’r cwestiynau beirniadol hyn ar erthyglau papur newydd, ffynonellau’r rhyngrwyd a llyfrau. Fodd bynnag, maent hefyd yn ddefnyddiol wrth ddarllen deunyddiau a adolygwyd gan gymheiriaid, fel deunyddiau eich cwrs ac erthyglau cyfnodolion. [Defnyddiwch gwestiynau i’ch helpu i archwilio deunydd yn feirniadol.]
Blwch 1 Rhai cwestiynau i’ch tywys wrth ddarllen
- Pwy sy’n siarad neu’n ysgrifennu?
- Beth yw eu barn neu safbwynt?
- Pa syniadau a gwybodaeth a gyflwynir a sut y’u cafwyd?
- A oes honiadau di-sail? A ddarperir rhesymau neu dystiolaeth berthnasol?
- A yw’r dull a ddefnyddir i ganfod y dystiolaeth yn gadarn? (e.e. o ran maint y sampl neu’r grŵp rheoli lle yr honnir arwyddocâd ystadegol)
- A yw’r dystiolaeth yn gywir neu’n ddilys?
- Pa honiadau a wnaed?
- Beth yw ffaith a beth yw barn?
- Beth yw’r gwerthoedd amhenodol a phenodol?
- A oes unrhyw gyffredinoli afresymol?
- Beth a hepgorwyd?
- Sut y daethpwyd i’r casgliadau?
- A yw’r casgliadau yn rhesymol?
- Pa farn neu safbwyntiau eraill allai fod?