Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.4 Gwerthuso deunydd ar-lein

Wrth werthuso deunydd y dewch o hyd iddo ar-lein, dylech ddefnyddio’r un dull beirniadol o gwestiynu ag y byddech ar gyfer deunydd papur. Bydd llawer o’r testunau ar-lein y byddwch yn edrych arnynt yn fersiynau electronig o gyfnodolion a llyfrau cyhoeddedig. Fodd bynnag, gall rhywfaint o ddeunydd ar-lein fod ar ffurf blogiau, wikis a gwefannau eraill, lle y cyflwynir gwybodaeth mewn ffordd wahanol ac efallai y bydd angen i chi chwilio ychydig yn galetach am dystiolaeth y gall wrthsefyll prosesau craffu beirniadol.

  • Dadansoddi wrth i chi ddarllen - a yw’r dadleuon yn gadarn?/yn ategu ei gilydd? A yw’r ffeithiau’n gyson â’i gilydd? Ceisiwch feddwl am y cynnwys yn y ffyrdd canlynol.
  • Perthnasedd - gallai diben y wefan fod yn wahanol iawn i’ch diben chi wrth astudio eich cwrs.
  • Gwrthrychedd - byddwch yn ymwybodol a yw’r awdur yn dadlau o blaid rhywbeth penodol. Ni fyddai rhagfarn wrth ysgrifennu o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid diystyru’r deunydd a’i hepgor o’ch astudiaethau, ond dylech ei amlygu a’i gydnabod wrth ddyfynnu neu aralleirio.
  • Tystiolaeth ategol - a yw honiadau yn seiliedig ar dystiolaeth y gellir ei holrhain i ffynhonnell ddibynadwy, neu ar wybodaeth y gwyddoch ei bod yn ddibynadwy? Ceisiwch beidio â chael eich dylanwadu gan esboniad tanbaid neu esboniad wedi ei eirio’n dda nad yw wedi ei ddadlau’n systematig nac wedi ei ategu gan dystiolaeth.
  • Dylanwadau eraill - a noddwyd y gwaith gan sefydliad a allai fod wedi dylanwadu ar ddehongliad y canlyniadau? Fel arall, efallai bod y wefan wedi ei noddi gan sefydliad ag enw da, a allai eich annog i fod yn fwy hyderus ynghylch y wybodaeth a welwch yno.
  • Tarddiad - o ble y daw’r wybodaeth? Edrychwch am dudalen ‘ynglŷn â’r wefan hon’ sy’n sôn wrthych am awduron y wefan a’u nodau. Edrychwch ar y cyfeiriad gwe: os yw’n gorffen gyda ‘.ac.uk’ mae’n perthyn i brifysgol yn y DU.
  • Amseroldeb - a yw’r wefan yn cael ei diweddaru’n gyson, neu a yw’n edrych fel petai’n cael ei hesgeuluso? Yn aml mae dyddiad hawlfraint a symbol rhywle ar y wefan sy’n nodi pryd y cafodd y deunydd ei gynhyrchu neu pryd y cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf.
  • Dull - os ydych yn chwilio am adroddiad ymchwil, a yw’r dulliau a ddefnyddir ar gyfer casglu a dadansoddi data yn eglur?

Ewch i lyfrgell electronig y Brifysgol Agored yn http://ltssolweb1.open.ac.uk/ safari/ signpost.htm [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i weld rhagor am chwilio am wybodaeth a’i gwerthuso.