1.5 Technegau darllen yn gyflym
[Gall technegau darllen yn gyflym eich helpu i ddod o hyd i rannau defnyddiol y testun y mae angen i chi eu darllen.] Gall adegau godi pan fydd angen i chi ddarllen llawer iawn o ddeunydd mewn cyfnod byr o amser. Gall technegau darllen yn gyflym (fel sganio a brasddarllen) eich helpu i ddod o hyd i rannau defnyddiol y testun y mae angen i chi eu darllen. Os ydych yn brasddarllen neu’n sganio rhywbeth ac yn penderfynu nad yw’n werth ei ddarllen yn fanwl, rydych wedi arbed rhywfaint o amser gwerthfawr i chi’ch hun. Fodd bynnag, os penderfynwch fod y deunydd yn ddefnyddiol, bydd angen i chi arafu a dechrau edrych ychydig yn fanylach ar y testun.
Er i’r ddwy dechneg gael eu disgrifio ar wahân yma, efallai y byddwch yn brasddarllen ac yn sganio darn yr un pryd.