Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.5.1 Sganio

Mae hyn yn ddefnyddiol pan fyddwch am ddethol rhywfaint o wybodaeth benodol yn gyflym o destun ond nad ydych am ddarllen y testun cyfan (gweler Ffigur 2). Mae sganio erthygl neu lyfr yn eich galluogi i ddethol geiriau neu ymadroddion heb orfod manylu ar ystyr ehangach y testun. Os ydych yn chwilio am rywbeth penodol, ceisiwch sganio’r dudalen am eiriau, ymadroddion neu acronymau penodol. Dylai’r geiriau hyn eich taro ar unwaith wrth i’ch llygad symud i lawr y dudalen.

Gallwch roi cynnig ar y dechneg hon hefyd ar y rhestr gynnwys, y mynegai neu’r rhestr darluniau i weld a yw geiriau allweddol yn ymddangos yno. Gallwch anwybyddu beth mae’r llyfr neu’r erthygl yn ceisio ei ddweud a chanolbwyntio’n syml ar y geiriau rydych am geisio dod o hyd iddynt.

Ffigur 2 Wrth i chi sganio’r testun bydd eich llygad yn taro ar rai geiriau ac ymadroddion penodol