Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.5.2 Brasddarllen

Mewn cyferbyniad â hyn mae brasddarllen yn golygu darllen brawddegau yn gyflym i ddod o hyd i brif syniadau’r deunydd rydych yn ei ddarllen (gweler Ffigur 3). Nid yw’r math hwn o ddarllen yn golygu eich bod yn deall y deunydd rydych wedi ei ddarllen yn llwyr, ond mae’n eich helpu i ddeall y prif bwynt yn gyflym iawn. Nid oes rhaid i chi ddarllen pob gair. Gadewch i’ch llygaid frasddarllen y brawddegau ac fe welwch eich bod yn taro ar eiriau sy’n rhoi cliwiau i chi o ran yr hyn y bydd y testun yn ei ddweud nesaf.

Ffigur 3 Gadewch i’ch llygaid frasddarllen y testun yn gyflym fel bod hanfod y testun yn glir i chi

Gallwch gyfuno brasddarllen â sganio yn hawdd iawn. Felly, er enghraifft, efallai y byddwch yn dechrau sganio’r dudalen gynnwys mewn llyfr ar gyfer teitl pennod diddorol. Yna, ar ôl i chi ddod o hyd i bennod yr hoffech edrych arni, gallwch ddechrau brasddarllen y cyflwyniad neu’r casgliad i’r bennod.

Ceisiwch ddarllen y frawddeg gyntaf ym mhob paragraff. Yn aml bydd y frawddeg gyntaf yn paratoi’r cefndir ar gyfer gweddill y paragraff.

Blwch 2 Awgrymiadau eraill ar gyfer darllen yn gyflym

  • Edrychwch ar y cyflwyniad: efallai y bydd yn rhoi trosolwg defnyddiol i chi o’r bennod neu’r erthygl.
  • Ewch yn syth i’r casgliad a darllenwch hwnnw’n gyflym.
  • Edrychwch ar y rhestr gynnwys i ganfod strwythur cyffredinol y llyfr.
  • Chwiliwch am eiriau cyfeirio (megis: yn y bôn, yn bwysicaf oll, i gloi) er mwyn helpu i nodi rhannau mwyaf perthnasol y testun.