2.1 Datblygu arferion da
Ceisiwch ddatblygu arferion da o ran gwneud nodiadau o ddechrau eich astudiaethau.
- Ysgrifennwch eich nodiadau yn eich geiriau eich hun bob amser. Peidiwch â chopïo’r union eiriau rydych yn eu darllen. Drwy drosi’r hyn rydych yn ei ddarllen i’ch geiriau chi eich hun bydd gennych gyfle gwell o ddeall yn iawn yr hyn y mae’n ei ddweud: rydych yn mewnoli ystyr y deunydd. [Ysgrifennwch eich nodiadau yn eich geiriau eich hun bob amser.]
- Byddwch yn ymwybodol o’r risgiau o lên-ladrad. Os ydych yn copïo deunydd air am air, yn hytrach na defnyddio eich geiriau chi eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r ffynhonnell fel y gallwch gydnabod o ble y daw os byddwch yn ei ddyfynnu mewn aseiniad. Mae cael gafael ar ddeunydd darllen ar-lein yn ei gwneud yn hawdd iawn i chi amlygu a chopïo blociau o destun i mewn i’ch dogfennau ac yna anghofio nad eich gwaith chi ydyw. Pan fyddwch yn cyflwyno aseiniadau, bydd disgwyl i chi gadarnhau mai eich gwaith chi yw’r cyfan.
- Nodwch o ble y daeth y syniadau yn eich nodiadau: y llyfr neu’r bennod, y dudalen, teitl y cyfnodolyn, teitl yr erthygl, neu beth bynnag sy’n briodol. Os ydych wedi nodi dyfyniad uniongyrchol gan rywun, cofiwch roi rhif y dudalen bob tro o ble y daeth y dyfyniad, neu byddwch yn treulio amser yn chwilio amdano eto yn nes ymlaen. Os ydych yn gwneud nodiadau o wefan neu flog, gwnewch nodyn o gyfeiriad y wefan, enw’r wefan a’r dyddiad y gwnaethoch fynd arni. Mae disgwyl i chi greu rhestr gyfeirnod o’ch ffynonellau ar ddiwedd eich aseiniadau. [Nodwch o ble y daeth y syniadau yn eich nodiadau.]
- Pan ddewch o hyd i ddyfyniad perffaith, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi dyfynodau amlwg o amgylch y geiriau yn eich nodiadau (pan ddychwelwch at eich nodiadau fisoedd yn ddiweddarach o bosibl, byddwch wedi anghofio ai chi neu rywun arall a ysgrifennodd y geiriau oni fyddwch wedi gwneud hynny’n amlwg drwy roi dyfynodau).