Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3.2 Trefnu ffeiliau cyfrifiadurol

[Defnyddiwch dyfais storio gludadwy fel gyriant pen i gario eich ffeiliau o amgylch gyda chi ble bynnag yr ewch.] Meddyliwch am y ffordd orau o drefnu’r dogfennau a’r ffeiliau rydych yn eu creu ar y cyfrifiadur. Gwnewch yn siŵr eich bod yn creu strwythur ffolderi gyda labeli ystyrlon.

Os byddwch yn colli ffeil ar eich cyfrifiadur, teipiwch ei henw i mewn i Windows Explorer i chwilio amdani. Mae rhai cymwysiadau defnyddiol am ddim ar gael hefyd ar y rhyngrwyd (er enghraifft, Google Desktop a Yahoo) a fydd yn mynegeio eich ffeiliau ac yn eich galluogi i chwilio pob ffeil ar eich cyfrifiadur.

Gall dyfais storio gludadwy fel gyriant pen (disg fflach neu gofbin), fod yn ddefnyddiol iawn os ydych yn gweithio ar fwy nag un cyfrifiadur, fel y gallwch gario eich ffeiliau o amgylch gyda chi ble bynnag yr ewch. Byddwch yn ofalus sut rydych yn enwi eich ffeil bob tro rydych yn ei chadw fel nad ydych yn anghofio pa un yw’r un fwyaf diweddaraf.

Gwnewch yn siŵr bod gennych system i gadw eich ffeiliau cyfrifiadurol wrth gefn. Defnyddiwch CD, gyriant caled ar wahân neu ddyfais storio arall i gadw’r fersiwn ddiweddaraf o’ch ffeiliau.

Ewch i http://www.open.ac.uk/ skillsforstudy/ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i ganfod mwy am ddefnyddio eich cyfrifiadur neu i drefnu eich ffolderi a’ch ffeiliau.