2.4 Technegau ar gyfer gwneud nodiadau
Mae sawl ffordd o wneud nodiadau, er enghraifft:
- Nodiadau ar sail testun: ysgrifennu nodiadau yn eich llyfrau cwrs, creu tablau gyda nodiadau ynddynt, creu cardiau crynhoi.
- Nodiadau gweledol: tynnu lluniau o fapiau meddwl, mapiau systemau, diagramau llinell neu ddefnyddio aroleuwyr a darnau papur gludiog lliw i greu cod lliwiau ar y nodiadau sydd gennych eisoes.
- Nodiadau sain: defnyddio cyfrifiadur neu recordydd digidol i greu sain y gallwch wrando arno yn ddiweddarach.
Gallwch hefyd gyfuno’r arferion gwahanol hyn a chreu nodiadau pwerus iawn. Mae rhagor o wybodaeth am y technegau hyn isod. Mae gan bob un ei chryfderau a’i gwendidau. Gall rhai apelio atoch yn fwy nag eraill, ond rhowch gynnig ar rai technegau gwahanol i weld pryd maent yn gweithio orau i chi.
Os yw’n well gennych wneud nodiadau ar eich cyfrifiadur yn hytrach na gyda llaw, gallwch ddod o hyd i becynnau meddalwedd am ddim ar-lein. Maent yn amrywio o gardiau mynegai electronig a meddalwedd mapio meddwl i wefannau lle y gallwch storio eich dogfennau.
Ewch i http://www.open.ac.uk/ skillsforstudy/ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i ddysgu mwy am dechnegau ar gyfer gwneud nodiadau.