Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4.1 Aroleuo, anodi a darnau papur lliw

Er y byddai rhai yn credu bod y syniad o ysgrifennu yn eu llyfrau testun yn anodd ar y dechrau, mae llawer o fyfyrwyr yn credu ei fod yn dechneg ddefnyddiol, a dylunnir llawer o destunau’r Brifysgol Agored gydag ymyl llydan i fyfyrwyr at y diben hwn.

Mae defnyddio’r lle cyfyngedig ar ymylon eich llyfrau cwrs yn eich annog i brosesu’r cysyniadau, y damcaniaethau neu’r prosesau rydych yn darllen amdanynt a’u haileirio fel crynodeb byr (gweler Ffigur 4). Mae gallu aralleirio yn gryno ac yn gywir yn ddawn ysgrifennu bwysig a fydd yn fanteisiol i chi ar gyfer aseiniadau ac arholiadau.

Mae’r agwedd weledol ar ysgrifennu yn eich llyfrau cwrs ac aroleuo yn bwysig ac fe fydd yn haws o lawer i chi sganio’r deunydd pan fyddwch yn dychwelyd ato yn nes ymlaen. Mae defnyddio aroleuwyr yn gwella’r effaith weledol a gall fod yn ddefnyddiol hefyd i roi cod lliw gwahanol i rannau gwahanol o’r testun. Fodd bynnag, peidiwch â gorliwio, oherwydd gall gormod o aroleuo eich drysu a gall awgrymu nad ydych yn astudio’r testun i bob pwrpas.

Gallwch hefyd ysgrifennu nodiadau ar ddarnau papur gludiog lliw a’u defnyddio fel dalen-nodau, neu eu rhoi ar wal eich ardal astudio.

Ffigur 4 Defnyddio ymyl eich llyfrau cwrs i ysgrifennu nodiadau
Ffigur 5 Gall nodiadau wedi’u gwneud eich helpu i lunio’r cydberthnasau rhwng pethau fel damcaniaethau, cysyniadau neu awduron