Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4.11 Ailwampio eich nodiadau

Bydd y nodiadau a wnewch yn ystod eich cwrs yn darparu adnodd y gallwch ei ailwampio at ddibenion eraill, er enghraifft ar gyfer aseiniadau ac arholiadau. Mae ailwampio nodiadau hefyd yn gyfle i adolygu, oherwydd mae’n rhaid i chi fynd yn ôl drwy’r broses feddwl unwaith eto wrth i chi eu hailwampio. Efallai y penderfynwch gadw’r nodiadau hyn hyd yn oed er mwyn cyfeirio atynt wrth astudio yn y dyfodol.

  • Os byddwch yn ailwampio nodiadau ar gyfer aseiniad, cadwch gwestiwn yr aseiniad gyda chi er mwyn helpu i hoelio eich sylw. Edrychwch am arweiniad yng nghanllaw eich aseiniad, a allai eich cymell i edrych ar rai rhannau o ddeunyddiau eich cwrs i ateb cwestiwn penodol. Os ydych wedi ffeilio eich nodiadau yn dda, byddwch yn gallu mynd yn syth at y deunydd perthnasol.
  • Pan fyddwch yn ailwampio eich nodiadau ar gyfer arholiad, hwyrach y byddwch yn lleihau hyd eich hen nodiadau. Wrth i chi eu darllen ceisiwch eu crynhoi ac yna defnyddiwch yr ail set hon o nodiadau fel eich deunydd adolygu.