2.4.5 Mapiau systemau
Yn debyg i fapiau meddwl, gall mapiau systemau ddal ciplun o gydberthynas gymhleth. Maent yn arbennig o dda am ddangos cydberthnasau sy’n gorgyffwrdd rhwng cydrannau gwahanol y map (gweler Ffigur 8 drosodd). Gall y broses o dynnu llun o fap systemau eich helpu i feddwl drwy strwythur pwnc a’r hyn sy’n gyffredin rhwng elfennau gwahanol a’r gydberthynas rhyngddynt. Gellir defnyddio llinellau toredig i ddangos ffiniau amhenodol rhwng is-systemau.