2.4.9 Gwneud nodiadau ar fformiwlâu a datrys problemau
Mae cyrsiau mathemateg yn aml yn defnyddio tasgau datrys problemau fel ffordd o’ch helpu i ddysgu fformiwlâu. Mae’r tasgau hyn yn eich helpu i ymarfer eich sgiliau datrys problemau a chymhwyso’r sgiliau hynny i sefyllfaoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd. Bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu wrth i chi weithio drwy’r tasgau hyn.
- Peidiwch â dileu eich nodiadau os ydych wedi gwneud camgymeriad. Rhowch linell drwy’r rhan o’r fformiwla sy’n anghywir, rhowch linell oddi tani ac ailddechreuwch eich nodiadau o dan y pwynt hwnnw. Wrth fynd drwy’r cyfrifiadau, gall eich camgymeriadau eich helpu yn y pen draw i ddod o hyd i’r ateb cywir.
- Gadewch ddigon o ofod gwyn o amgylch eich datrysiadau fel y gallwch wneud nodiadau ychwanegol yn nes ymlaen os bydd angen.
- Gall tasgau datrys problemau, a dysgu mathemateg yn gyffredinol, olygu dysgu cam wrth gam, felly ewch drwy gyfrifiadau a phroblemau yn drylwyr: peidiwch â cheisio dod o hyd i ffordd fer o wneud rhywbeth neu hepgor ambell i gam.