Datblygu strategaethau astudio effeithiol (Develop effective study strategies)

3 Sgiliau dysgu

Gelwir sgiliau dysgu yn aml yn sgiliau astudio neu sgiliau allweddol hefyd. Caiff y sgiliau allweddol hyn, sydd eu hangen ar gyfer astudio ac y gellir eu meithrin o ganlyniad i astudio, eu cynnwys yn y canlyniadau dysgu ar gyfer eich cwrs.

Ymhlith yr enghreifftiau o’r sgiliau hyn mae:

  • sgiliau trefnu (e.e. cynllunio a threfnu sut i gwblhau aseiniad)
  • sgiliau cyfathrebu (e.e. darllen a deall ffynonellau gwahanol, ac ysgrifennu mewn arddull sy’n briodol i’r dasg)
  • sgiliau rhifedd (e.e. llunio graffiau a chymhwyso technegau ystadegol).

Mae gan bob un ohonom sgiliau rydym wedi eu defnyddio’n llwyddiannus mewn meysydd gwahanol o’n bywydau, a gallwch eu harneisio a’u defnyddio’n effeithiol yn eich astudiaethau. Mae’n bwysig deall pa sgiliau sydd eu hangen ar gyfer tasg benodol a pha mor effeithiol rydych yn eu defnyddio. Ond nid ydych yn meithrin sgiliau dysgu mewn gwacter - rhaid i chi fod yn astudio rhywbeth er mwyn eu harfer neu eu datblygu. Os ydych wedi astudio dau neu fwy o gyrsiau’r Brifysgol Agored ar bynciau gwahanol, efallai na fydd y sgiliau rydych wedi eu datblygu a’u defnyddio mewn un cwrs yn trosglwyddo’n hawdd i’r cwrs arall.

Gall bod yn ymwybodol o’r hyn rydych yn ei wneud yn dda a lle mae angen i chi ddatblygu eich sgiliau fod yn gam cyntaf tuag ag hybu eich hyder, gan eich galluogi i gynllunio i wella eich perfformiad fel myfyriwr. Mae gan bob un ohonom sgiliau rydym wedi eu defnyddio’n llwyddiannus mewn meysydd gwahanol o’n bywydau, a gallwch eu harneisio a’u defnyddio’n effeithiol yn eich astudiaethau. Os bydd sgil benodol y bydd angen i chi ei datblygu - megis deall graffiau neu wneud nodiadau wrth i chi ddarllen - yna bydd angen i chi wneud penderfyniad i wella’r sgil honno a neilltuo’r amser i wneud hynny.

Mae’n bosibl mynd i rigol wrth astudio na fydd yn effeithiol iawn ar gyfer y dasg dan sylw. Gall meddwl am eich sgiliau chi eich hun a bod yn ymwybodol o’r rhai rydych yn tueddu i’w defnyddio eich helpu i:

  • weld sut y gallech wneud newidiadau
  • datblygu ffyrdd newydd o weithio
  • dod yn fwy ymwybodol o’r technegau gwahanol y gallech eu dyfeisio.

Ewch i’r wefan Skills for OU Study yn http://www.open.ac.uk/skillsforstudy/ i weld sut y gallwch nodi a gwella eich sgiliau.