1.1 Canlyniadau dysgu
Mae canllaw neu ddeunyddiau eich cwrs yn cynnwys canlyniadau dysgu sy’n amlinellu’r sgiliau deallusol, ymarferol a phroffesiynol allweddol y dylech eu meithrin ar y cwrs. Caiff y sgiliau hyn eu categoreiddio fel arfer yn bedwar grŵp. [Gall Canlyniadau dysgu helpu i fod yn glir ynghylch yr hyn y byddwch yn ei ddysgu ar gwrs, a’r mathau o sgiliau y byddwch yn eu datblygu.]
- Gwybodaeth a dealltwriaeth. Cael gwybodaeth benodol yn gysylltiedig â phwnc penodol (e.e. ffeithiau a chysyniadau mewn meysydd gwyddonol).
- Sgiliau gwybyddol. Sgiliau meddwl, megis datrys problemau a dadansoddi.
- Sgiliau ymarferol a phroffesiynol. Sgiliau yn ymwneud â maes galwedigaethol (e.e. dylunio gwefan neu gynllunio gwersi).
- Sgiliau allweddol. Sgiliau a gaiff eu meithrin o ganlyniad i astudio, megis sgiliau cyfathrebu a rheoli amser.
Gall y rhain eich helpu i fod yn glir ynghylch yr hyn y byddwch yn ei ddysgu ar gwrs, a’r mathau o sgiliau y byddwch yn eu datblygu.