1.2 Eich hanes dysgu
Mae ffactorau allweddol sy’n debygol o effeithio arnoch chi fel dysgwr a’ch dull dysgu ac astudio. Mae’r rhain yn cynnwys:
- eich profiadau fel dysgwr, mewn lleoliadau ffurfiol (e.e. yn yr ysgol) ac yn anffurfiol, drwy brofiadau dysgu anstrwythuredig neu annisgwyl (e.e. dysgu mewn amgueddfa)
- eich ysgogiadau (e.e. y rhesymau pam rydych yn dilyn cwrs astudio penodol)
- eich teimladau neu emosiynau, a all ymwneud â’ch profiadau dysgu blaenorol
- eich cryfderau, dewisiadau, arferion neu sgiliau presennol.
Gall y ffactorau hyn ddylanwadu ar eich profiad astudio presennol a’r ffordd rydych yn ymgysylltu ag ef, a gallant arwain at oblygiadau i’r technegau astudio rydych yn tueddu eu defnyddio (a all fod yn effeithiol neu beidio).
Blwch 1 Eich profiadau fel dysgwr
Meddyliwch am eich profiadau dysgu. Efallai mai profiadau a gawsoch yn blentyn oedd y rhain, neu yn fwy diweddar, yn y gwaith. Ceisiwch nodi:
- profiad dysgu pleserus ac effeithiol
- profiad nad oedd yn bleserus, neu efallai lle y cawsoch anhawster i ddeall neu ddysgu rhywbeth.
Myfyriwch ar pam yr oedd y cyntaf mor effeithiol, a beth oedd yr anawsterau gyda’r profiad llai cadarnhaol.
Mae’n debygol bod gennych rai teimladau emosiynol ynglŷn â pham rydych yn cofio’r profiadau arbennig hyn. Mae emosiynau a theimladau yn aml yn rhan o’n dysgu, ac mae cydnabod hyn - a datrys unrhyw densiynau yn ein teimladau ynghylch dysgu - yn rhan bwysig o ddatblygu fel dysgwr.
Drwy edrych ar eich profiadau gallwch:
- ddechrau mynd i’r afael â sut y gallwch reoli eich dysgu
- rhoi cynnig ar dechnegau effeithiol a fydd yn eich cynnal drwy eich astudiaethau.
Blwch 2 Adnoddau ar-lein cysylltiedig
Mae dysgu gyda’r Brifysgol Agored yn http://www.open.ac.uk/ learning [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn dwyn ynghyd yr adnoddau a fydd yn eich helpu i ddatblygu amrywiaeth o rinweddau a sgiliau, a fydd yn werthfawr ar gyfer astudio gyda’r Brifysgol Agored, gwaith a meysydd eraill yn eich bywyd.
Yma, gallwch hefyd gael gafael ar offeryn e-portffolio ar-lein i gadw llygad ar eich dysgu, cadw cofnodion cynllunio datblygiad personol, a datblygu CV.