4.1 Offer ar gyfer myfyrdod
Mae’r meysydd rydych yn canolbwyntio arnynt ar gyfer myfyrdod yn gwahaniaethu o berson i berson, yn yr un modd ag y gall yr offer a ddefnyddiwch i gofnodi eich myfyrdodau. Efallai y bydd angen i chi roi cynnig ar ychydig o fathau gwahanol er mwyn dod o hyd i’r un mwyaf buddiol, a gall eich dull o gofnodi myfyrdod newid wrth i amser fynd heibio (gweler Ffigur 2 a Ffigur 3). Mae offer ar gyfer myfyrdod yn cynnwys:
- cyfnodolion neu ddyddiaduron dysgu
- ffurflenni strwythuredig
- mapiau meddwl
- recordio eich hun ar gyfarpar sain.
Blwch 3 Dysgu gyda’r Brifysgol Agored
Ewch i Learning with the OU yn http://www.open.ac.uk/ learning [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i gael gafael ar offeryn e-portffolio ar-lein y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer eich datblygiad. Gallwch ei ddefnyddio:
- fel offeryn myfyriol
- i gadw llygad ar eich dysgu
- i gadw cofnodion cynllunio datblygiad personol.
Mae’r defnydd o dyddlyfr dysgu myfyriol yn ddull cyffredin a gwerthfawr, a gallwch fabwysiadu strwythur ar gyfer pob cofnod yn y dyddlyfr, a allai gynnwys y lleoliad a’r dyddiad, beth a wnaethoch, a nodiadau beirniadol allweddol ar eich myfyrdodau ar y gweithgarwch a beth a ddysgoch yn eich barn chi. Mae’n werth arbrofi gydag offer gwahanol sydd â strwythurau gwahanol.
- Gallai rhai fod yn rhai parod, megis dyddiadur gyda diwrnod ar bob tudalen.
- Crëwch un eich hun - llyfr nodiadau lle rydych wedi gosod eich amserlen astudio yn y blaen, a’ch hoff gardiau post yma ac acw i’ch ysbrydoli.
‘Dwi wedi gwneud llawer ers fy TMA cyntaf - mae’n siŵr fy mod i’n dechrau datblygu rhai sgiliau myfyriol gan fy mod i’n dechrau edrych yn ôl ar fy sesiynau astudio ac yn ceisio nodi’r strategaethau sy’n gweithio’n dda i mi.’
Blwch 4 Cadw dyddlyfr dysgu myfyriol
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer cadw dyddlyfr neu ddyddiadur dysgu.
- Ysgrifennwch yn rheolaidd, ond cofiwch y gall cofnodion fod yn fyr.
- Canolbwyntiwch ar fater neu broblem benodol ar gyfer cofnod unigol – meddyliwch am sut y gallech fynd i’r afael â’r mater neu ei ddatrys, neu beth yr hoffech ei wella.
- Defnyddiwch gwestiynau neu brociau i’r cof - gall y rhain eich helpu i ganolbwyntio ar y dasg.
- Ceisiwch osgoi ysgrifennu disgrifiadol - yn hytrach, defnyddiwch ddull beirniadol a dadansoddol Bydd angen i chi gwestiynu, anghytuno, dadlau a gwerthuso.
- Defnyddiwch dechnegau gwneud nodiadau creadigol, megis mapio meddwl, neu lunio diagramau, sgetsys neu gartwnau. Defnyddiwch liw i’w gwneud yn fwy diddorol a chofiadwy.
- Adolygwch y cofnodion rydych wedi eu hysgrifennu dros gyfnod o amser (e.e. yn yr ychydig wythnosau diwethaf, neu ar gyfer gweithgarwch astudio, megis cwblhau aseiniad). Beth am weld a allwch ddod o hyd i themâu allweddol yn eich cofnodion, a chydnabod pa gamau tymor hwy y bydd angen i chi eu cymryd o bosibl (e.e. i wella sgil astudio benodol).
Cofiwch y gall ysgrifennu ei hun gael ei ddefnyddio fel offeryn dysgu: nid oes raid i chi ddefnyddio ysgrifennu ond i gyfleu’r hyn rydych yn ei wybod ac yn ei ddeall (e.e. drwy gynhyrchu aseiniad neu ateb cwestiynau mewn arholiad), ond gallwch ddefnyddio ysgrifennu i archwilio syniadau fel ffordd o’u deall.
I lawer ohonom, daw myfyrdod yn weithgarwch mwy ystyrlon os gellir ei rannu, naill ai mewn grŵp neu gyda myfyriwr arall. Mae mynegi eich meddyliau a’ch syniadau mewn geiriau a chael ymateb gan rywun arall, gan wrando efallai ar eu hymateb, yn gwneud y broses yn fwy rhyngweithiol a datblygiadol. Gall y rhyngweithio hwn fod wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu e-bost, neu gyda myfyriwr neu ffrind arall.