5.2 Cynllunio a blaenoriaethu
Bydd angen i chi nodi eich nodau sy’n gysylltiedig â’ch astudiaethau a chynllunio yn unol â hwy.
- Nodau tymor hir. Blaengynlluniwch fel y gallwch flaenoriaethu nodau tymor hir yn rheolaidd. Erbyn pryd y mae’n rhaid i mi gyflwyno fy aseiniadau? Beth yw fy ymrwymiadau a’m cynlluniau ar gyfer y flwyddyn (e.e. pryd mae gwyliau’r teulu? A oes gennyf ddigwyddiadau allweddol yn y gwaith, a fydd yn effeithio ar fy amser astudio a sut rwyf yn teimlo ynghylch astudio?)
- Nodau tymor byr. Beth a wnaf gyda’r amser astudio rwyf wedi ei neilltuo heddiw? Beth sy’n bwysig heddiw ar gyfer nodau’r wythnos hon? Sut rwyf yn teimlo? A fyddai’n well i mi ddarllen adran o ddeunydd y cwrs, neu weithio allan pa dasgau y mae angen i mi eu gwneud i gwblhau fy aseiniad?