5.2.2 Nodau tymor byr
Meddyliwch am eich nodau tymor byr, megis cwblhau aseiniad. Gallwch wneud hyn gyda chynllun neu amserlen fanylach fel y gallwch rannu gweithgarwch penodol yn ddarnau mwy hydrin, y gallwch fynd i’r afael â hwy yn y sesiynau astudio sydd ar gael i chi. Gallai’r amserlen hon fod ar gyfer yr wythnos nesaf neu’r ychydig wythnosau nesaf. Rhowch y cynllun neu’r amserlen ar y wal, neu’r oergell, neu ar dudalen flaen eich dyddlyfr dysgu neu’r llyfr nodiadau - a cheisiwch gadw ato/ati (gweler Ffigur 5).
Ystyriwch ddefnyddio cymhellion a gwobrau, i’ch helpu:
- i ysgogi eich hun i ddechrau ar dasg astudio benodol
- i gadw at eich amserlen astudio
- i gyflawni eich nodau tymor byr.
Beth rydych yn hoffi ei wneud mewn gwirionedd? Beth am addo sesiwn nofio, cinio gyda ffrind, neu eich hoff raglen deledu i chi’ch hun os ydych, er enghraifft
- yn gwneud o leiaf ddwy awr o astudio mewn diwrnod
- yn cadw at eich amserlen
- yn cyflwyno eich aseiniad ar amser.
Mae gwobrwyo eich hun er mwyn cadw at eich cynlluniau yn beth da, ond cofiwch y bydd angen i chi adolygu amserlenni o bryd i’w gilydd efallai. Ni ddylech boeni am hyn oherwydd weithiau gall darllen rhannau o’r cwrs gymryd mwy o amser na’r disgwyl - bydd angen i chi ad-drefnu ychydig, ac wrth ymarfer byddwch yn gallu amcangyfrif faint o amser y bydd tasgau astudio penodol yn eu cymryd yn well.
‘Dwi’n gwneud yn siŵr yn awr beth bynnag yw’r gwaith dwi’n ei wneud fy mod yn gwobrwyo fy hun ar ôl tri chwarter awr. Mae’n rhywbeth i edrych ymlaen ato ac mae’n fy nghadw i fynd. Efallai mai dim ond am ddwy neu dair munud y bydda i’n stopio ac ar adegau eraill efallai y bydda i’n cymryd hyd at bymtheg munud - mae’n dibynnu sut dwi’n teimlo. Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr.’
Gall amserlenni wythnosol eich helpu i weld faint o amser sydd ar gael gennych i astudio, oherwydd gallwch hefyd nodi’r adegau hynny pan fyddwch yn gweithio, neu’n treulio amser gyda’r teulu, er enghraifft. Efallai y bydd angen i chi ad-drefnu’r modd rydych yn defnyddio eich amser er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o oriau astudio yn eich wythnos.
Defnyddiwch restrau ‘pethau i’w gwneud’ dyddiol neu wythnosol i’ch helpu i gynllunio a blaenoriaethu. Gall y rhain eich helpu i wybod yn union beth sy’n wirioneddol bwysig ar gyfer eich astudiaethau, ond gallant hefyd olygu eich bod yn addo i chi’ch hun y byddwch yn gwneud yr hyn a gynlluniwyd ac a restrwyd gennych. Mae’n braf gallu rhoi croes drwy’r tasgau rydych wedi eu cwblhau ar y rhestr.
Nid yw cynllunio yn gwarantu y caiff popeth ei wneud neu y caiff y gwaith ei gwblhau ar amser, ac y byddwch yn gweithio allan beth sy’n gweithio orau i chi, ond bydd y broses o wneud cynllun yn eich helpu i ganolbwyntio ar yr hyn y mae’r dasg yn ei olygu ac yn rhoi cyfeiriad a diben i’ch astudiaeth.