5.2.3 Defnyddio cynlluniau gweithredu
Gall cynllun gweithredu eich helpu i nodi’r hyn rydych am ei gyflawni yn y tymor hir, a meddwl drwy’r camau y bydd angen i chi eu cymryd yn y tymor byr i gyflawni hyn. Gall hyn ei gwneud yn haws i chi gyflawni eich nodau. Gallai eich cynllun gweithredu gynnwys yr elfennau hyn (gweler Ffigur 6).
- Nod
- Beth?
- Sut?
- Adnoddau?
- Pryd?
Gall cynllun neu gynllun gweithredu fod yn rhestr o bethau i’w gwneud, yn siart sy’n rhoi terfynau amser, yn ddiagram sy’n dangos sut y mae rhannau amrywiol eich cynllun yn rhyngweithio, neu’n gyfres o sticeri bach ar gerdyn y byddwch yn ei symud o amgylch pan fydd pob tasg wedi ei chwblhau. Os rhannwch y dasg gyffredinol yn gyfres o dargedau llai, gallwch ddilyn eich cynnydd yn fanylach. Mae’n ddefnyddiol cael ffordd o gofnodi eich cynnydd yn ogystal â ffordd o restru unrhyw ffynonellau cymorth y bydd eu hangen arnoch.
Ewch i http://www.open.ac.uk/ skillsforstudy/ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i ddysgu mwy am reoli eich amser yn effeithiol.