1 Deall ystyr ‘addysg gynhwysol

Yn ddi-os, mae addysg gynhwysol yn faes dadleuol. Yn wir, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, dyma ffocws yr hyn a alwodd Daniels yn ddadleuon eithriadol am ddiffiniad a pherchenogaeth ar ddechrau'r mileniwm (Daniels, 2000, t. 1), tra bod Mittler (2000, t. 7) wedi nodi, o ganlyniad i gymhlethdod y maes, nad yw 40 mlynedd o waith ymchwil wedi rhoi unrhyw eglurder i wneuthurwyr polisi. Yn yr adran agoriadol hon, byddwn yn ystyried amrywiaeth o safbwyntiau am yr hyn y mae addysg gynhwysol yn ei olygu – yn seiliedig ar amrywiaeth o adnoddau ‘swyddogol’ ac unigol. Ond yn gyntaf, beth am ystyried yr hyn y mae addysg gynhwysol yn ei olygu i chi?

Gweithgaredd 1: Profiad personol o gynhwysiant

Meddyliwch am eich profiad eich hun o addysg gynhwysol, naill ai fel llywodraethwr, disgybl, rhiant neu bartner addysgol. Efallai y bydd angen i chi nodi pwy yr oedd angen ei ‘gynnwys’ yn y sefyllfaoedd neu'r diffiniadau hyn. Ar ôl i chi wneud hyn, ystyriwch i bwy yr oedd cynhwysiant o'r fath yn bwysig, a'r rhesymau dros hynny.

Gallech wedyn fyfyrio ar eich profiad eich hun o gynhwysiant o gymharu â'r hyn y dylai fod yn eich barn chi. A allwch nodi pam y dylai cynhwysiant fod fel hyn, yn eich barn chi?

Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod. Gallwch lawrlwytho'r sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Comment

Efallai fod gennych brofiad o ddisgybl unigol ag anabledd a gafodd ddiagnosis gan ymarferydd meddygol, neu efallai fod gennych brofiad o gymuned ysgol amrywiol iawn lle mae gan fyfyrwyr ystod eang o brofiadau, anghenion a dewisiadau mewn perthynas â'u cefndir. Efallai eich bod wedi ystyried atebolrwydd yr ysgol am ddiwallu anghenion y myfyrwyr hyn, a chost gwneud hynny. Ffordd arall bosibl o feddwl am hyn fyddai ystyried yr adnodd cyfoethog y mae'r amrywiaeth hon yn ei chynrychioli ar gyfer y gymuned ddysgu.

Mae'r safbwyntiau sy'n dilyn yn deillio o amrywiaeth o ffynonellau: gweithredwyr anabl, gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant, dogfennau'r llywodraeth a sefydliad ymgyrchu. Cafodd llawer o'r sylwadau hyn eu gwneud pan oedd y term ‘cynhwysiant’ yn dechrau cael ei ddefnyddio'n gyffredinol ymhlith ymarferwyr addysgol. Wrth i chi eu darllen, cymharwch y safbwyntiau hyn â'ch rhai chi eich hun.

Disgrifiodd Chris Darlington, llywydd y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (NASEN) ar adeg ysgrifennu'r cwrs hwn, sef sefydliad cenedlaethol i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes cynhwysiant, gynhwysiant fel a ganlyn:

"’Proses, nid cyflwr … nid yw cynhwysiant yn gysyniad syml sydd wedi'i gyfyngu i faterion o ran lleoli.… Rhai o'r egwyddorion allweddol yw gwerthfawrogi amrywiaeth, hawliau, urddas, anghenion unigol, cynllunio, cyfrifoldeb ar y cyd, datblygiad proffesiynol, a chyfle cyfartal."

(Darlington, 2003, t 2)

Cynigodd Simone Aspis, sy'n disgrifio ei hun fel ‘goroeswr ysgol arbennig’, y diffiniad canlynol:

“Dylai addysg gynhwysol greu cyfleoedd i bob dysgwr gydweithio. Mae hyn yn golygu cydnabod bod dysgu yn well pan fo unigolion o alluoedd, sgiliau a dyheadau gwahanol yn gallu cydweithio mewn menter ar y cyd.”

(Aspis, 2004, t. 129)

Ysgrifennodd Peter Mittler (2000, t. 7) fod cynhwysiant yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn cael cyfle i wneud dewisiadau a phenderfyniadau drostynt eu hunain.

Daw'r dyfyniad nesaf o Inclusive Schooling (AdAS, 2001b), sef y ddogfen swyddogol a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) yn dilyn newidiadau i'r gyfraith yn 2001 a atgyfnerthodd hawliau myfyrwyr i leoliadau prif ffrwd:

“Dylai ysgolion a gefnogir gan awdurdodau addysg lleol ac eraill fynd ati'n rhagweithiol i gael gwared ar y rhwystrau i ddysgu a chymryd rhan a all atal neu eithrio disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.”

(AdAS, 2001b, paragraff 7)

Sefydliad ymgyrchu yw'r Ganolfan ar gyfer Astudiaethau ar Addysg Gynhwysol (CSIE), sy'n hyrwyddo twf ysgolion cynhwysol, a nododd:

ystyr cynhwysiant yw galluogi pob myfyriwr i gymryd rhan lawn ym mywyd a gwaith lleoliadau prif ffrwd, beth bynnag fo'i anghenion…

(CSIE, 2018)

Efallai hoffech edrych ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Gynnwys a Chynorthwyo Disgyblion. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor ar ddarparu addysg gynhwysol a datblygu polisïau presenoldeb yn yr ysgol ac ymddygiad:

Efallai eich bod wedi sylwi bod nifer o bethau'n gyffredin yn y diffiniadau gwahanol, ond maent yn amrywio hefyd. Er enghraifft, efallai eich bod wedi sylwi bod disgrifiad AdAS yn canolbwyntio ar ‘anghenion addysgol arbennig’, tra bod y safbwyntiau eraill yn ystyried bod addysg gynhwysol yn mynd ymhell y tu hwnt i un grŵp penodol o ddysgwyr.

Rydym wedi symud o ganolbwyntio ar anabledd i ganolbwyntio ar anfantais, ac o bryder ynghylch lleoliad dysgu myfyriwr i bryder ynghylch hwyluso cyfranogiad y myfyriwr yn y gymuned ddysgu.

Er bod y gair ‘cynhwysiant’ bellach ymddangos yn rheolaidd yn nogfennau'r llywodraeth, nid oes un diffiniad unigol ohono. O ganlyniad, pan fydd academyddion, rhieni, gweithredwyr a dogfennau'r llywodraeth yn sôn am gynhwysiant neu addysg gynhwysol, ymddengys eu bod yn defnyddio'r un term er nad yw'r hyn y maent yn ei ddweud o bosibl yn golygu'r un peth o gwbl.

Gweithgaredd 2: Beth mae cynhwysiant yn ei olygu i chi?

Ailddarllenwch y diffiniadau uchod a'u cymharu â'ch syniadau eich hun a pholisi cynhwysiant eich ysgol, yna nodwch eich diffiniad eich hun o gynhwysiant addysgol. Efallai yr hoffech ystyried y canlynol:

  • Pwy sy'n cael ei gynnwys?
  • Pa eiriau allweddol yr hoffech eu cynnwys yn eich diffiniad?
  • A yw hyn yn wahanol i'r profiadau o gynhwysiant rydych wedi eu cael neu wedi darllen amdanynt?
  • Sut mae polisi cynhwysiant eich ysgol yn cymharu â'r diffiniadau uchod?

Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod. Gallwch lawrlwytho'r sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Discussion

Dyma rai o'r syniadau a gawsom mewn ymateb i'r gweithgaredd hwn. Byddwch yn sylwi bod nifer ohonynt yn ymestyn y diffiniadau ar ddechrau'r adran hon yn sylweddol:

  • Mae addysg gynhwysol yn mynd y tu hwnt i 'anghenion addysgol arbennig': mae'n cyfeirio at bob dysgwr sydd, am resymau gwahanol, yn wynebu risg o gael ei ymyleiddio neu ei wahardd.

  • Mae addysg gynhwysol yn ymwneud â gwerthoedd: mae'n tybio bod grwpiau amrywiol o ddisgyblion yn gyfartal a bod ganddynt yr hawl i gael eu cynnwys.

  • Nid yw addysg gynhwysol yn canolbwyntio ar ddiffygion unigol canfyddedig, ond ar y rhwystrau i ddysgu y gall unigolion a grwpiau o ddisgyblion eu hwynebu.

  • Mae addysg gynhwysol yn ymwneud â newid y system er budd pawb: mae hyn yn cynnwys athrawon, myfyrwyr a phawb yn y sefydliad addysgol.

  • Mae addysg gynhwysol yn ymwneud â chymryd rhan a dysgu oddi wrth ei gilydd.

  • Nid yw addysg gynhwysol yn sefydlog – mae'n datblygu.