Cwrs am ddim

Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr

Datganiad o gyfranogiad am ddim ar ôl cwblhau'r cwrs
Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr
Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr

Croeso

Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad byr i faes cynhwysiant addysgol. Gallwch hefyd weld y cyrsiau eraill yn y casgliad hwn Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr a Gwaith tîm: cyflwyniad i lywodraethwyr ysgol.

Ni waeth pa ysgol y byddwch yn eich canfod eich hun ynddi, bydd y ffordd y mae'n ymdrin ag addysg gynhwysol yn ffactor bwysig wrth bennu diwylliant ei hamgylchedd dysgu ac addysgu. Dros yr ychydig oriau nesaf, cewch gyflwyniad i rai o'r egwyddorion a'r dadleuon a fydd wedi llywio'r modd y mae eich ysgol yn ymdrin â chynhwysiant. Byddwch yn ystyried safbwyntiau gwahanol ar gynhwysiant, yn benodol y ffordd y mae modelau meddygol a chymdeithasol wedi dylanwadu ar ein meddylfryd presennol. Byddwch hefyd yn ystyried y rhwystrau i gynhwysiant, a'r gwahaniaeth rhwng integreiddio a chynnwys. Hefyd, byddwch yn ystyried rhai o'r dogfennau allweddol, er enghraifft Datganiad Salamanca a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy'n sail i'n meddylfryd presennol yn y maes hwn.

Mae’r Cwrs Agored Bathodyn hwn yn rhan o gasgliad o adnoddau hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgol yng Nghymru. Datblygwyd y casgliad gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru gyda’r nod o ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a myfyrdodau ychwanegol a all eich helpu yn eich rôl fel llywodraethwr.

Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr

Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.

First Published: 25/09/2020

Updated: 25/09/2020

Gallwch gychwyn y cwrs hwn yn syth heb gofrestru. Cliciwch ar un o’r adrannau isod i gychwyn unrhyw bwynt yn y cwrs.
Os ydych yn dymuno tracio’ch cynnydd, ennill Datganiad Cyfranogiad am ddim, a cael mynediad at yr holl gwisiau a gweithgareddau, cofrestrwch.

Cynnwys y cwrs

    • Current section:
      Cyflwyniad

      Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i arweinyddiaeth a rheolaeth addysgol. Mae'n seiliedig ar y ddealltwriaeth bod ymchwilio i ymarferion a dadansoddi sefyllfaoedd go iawn yn gallu arwain at newid a gwelliant. Mae'r cwrs yn ystyried rhai o faterion a chysyniadau allweddol arweinyddiaeth addysgol ac, ymhlith pethau eraill, bydd yn trafod yr hyn y gellid ei ystyried yn arferion da mewn arweinyddiaeth addysgol a sut y gellid deall a datblygu'r gallu i wella. Caiff pwysigrwydd cynllunio a gwerthuso dat...

    • Deilliannau dysgu
    • Current section:
      1 Beth yw arweinyddiaeth addysgol?

      Mae arweinyddiaeth yn fater cymhleth: mae llu o gyhoeddiadau wedi'u hysgrifennu ar y pwnc. Dylid nodi o'r cychwyn cyntaf nad oes un ffordd gywir o arwain ac nad oes unrhyw atebion cyflym na rysáit hawdd ar gyfer datrys heriau arweinyddiaeth addysgol. Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno rhai o'r adnoddau a'r syniadau academaidd a fydd yn eich helpu i ddatblygu safbwynt critigol o ran dulliau arwain yn eich cyd-destun eich hun. Mae pob un ohonom wedi profi arweinyddiaeth eraill yn ein bywydau pr...

    • Current section:
      2 Cyd-destun Arweinyddiaeth yng Nghymru

      Mewn gwirionedd, prin yw'r sefydliadau sydd â strwythurau cwbl glir, a gellir defnyddio dulliau arwain gwahanol mewn rhannau gwahanol o'r un sefydliad. Gall pŵer ymddangos mewn strwythur hierarchaidd ddiffiniedig a gall hyn adlewyrchu ffurfiau ar wybodaeth arbenigol ganfyddedig. Fodd bynnag, gall y rheini nad ydynt mewn rolau arwain dynodedig ddylanwadu ar eraill drwy berswâd a meithrin cydberthnasau rhyngbersonol - gall hyn gynnwys cynnig camau i fireinio cynlluniau arwain...

    • Current section:
      3 Arweinyddiaeth a gwella ysgolion

      Mae adroddiad helaeth Estyn Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (2016) yn cynnwys cydnabyddiaeth bwysig bod gan bob ysgol le i wella ac mai arweinyddiaeth yw'r ffactor pwysicaf sy'n dylanwadu ar gyflymder, ansawdd a chynaliadwyedd gwelliant yr ysgol. Mae'r adroddiad yn nodi bod angen arddulliau arwain gwahanol ar ysgolion sydd ar gamau gwahanol yn eu datblygiad yn aml, a bod arweinwyr – ar bob cam o dait...

    • Current section:
      4 Mathau o arweinyddiaeth

      Mae Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd yn cynnwys tystiolaeth a gymerwyd o nifer o ysgolion cynradd. Mae bob amser yn bwysig ystyried tystiolaeth yn wrthrychol wrth fyfyrio ar arweinyddiaeth. Mae sawl astudiaeth achos fanwl wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, ac mae'r rhain yn adlewyrchu lefelau gwahanol o lwyddiant y gellir, yn eu tro, eu cysylltu ag agweddau ar arweinyddiaeth.O safbwynt academaidd, mae ffyrdd penodol o feddwl am arweinyddiaeth sy'n cynnwys:lleoliadoldosbarthiadoltrafodae...

    • Current section:
      5 Arwain datblygiad dysgu proffesiynol

      Un o'r rolau allweddol ar gyfer arweinwyr yw cefnogi dysgu proffesiynol pobl eraill. Ynghyd â bod yn un o nodweddion cyffredin gwella yn adroddiad Estyn Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd, mae gan ddatblygiad dysgu proffesiynol effeithiol nifer o ganlyniadau cadarnhaol posibl ar gyfer yr unigolyn a'r sefydliad. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o ganlyniadau gwell i ddysgwyr, sy'n flaenoriaeth ar gyfer unrhyw ysgol.Mae'n bwysig bod gweithgarwch dysgu proffesiynol yn gyson â...

    • Current section:
      6 Adolygu eich dysgu

      Y gweithgaredd olaf yw cyfle i chi ailymweld â'ch dysgu a myfyrio ar rai o'r prif themâu o'r cwrs hwn ar arweinyddiaeth. Efallai y bydd angen i chi ailedrych ar rywfaint o'ch gwaith darllen cynharach er mwyn atgyfnerthu rhai o'r cysyniadau arweinyddiaeth sydd wedi'u cyflwyno.Gweithgaredd 9: Amser i fyfyrioTiming: Caniatewch tua 45 munud Amlinellodd adroddiad Estyn Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]...

    • Cwis bathodyn gorfodol
    • Cyfeirnodau
    • Diolchiadau