6.9 Rhwydweithio ar gyfryngau cymdeithasol

Mae rhwydweithio ar gyfryngau cymdeithasol yn cynnwys rhyngweithio â phobl eraill ar-lein. Gall y bobl hyn fod yn ffrindiau neu'n ddieithriaid llwyr ac, yn aml, mae'r rhyngweithio'n digwydd drwy grwpiau neu gymunedau penodol sy'n rhannu diddordebau tebyg. Gall fod yn ffordd ddefnyddiol o ehangu eich gwybodaeth a'ch cysylltiadau, neu gefnogi eich gilydd. Mae hefyd yn dod yn un o'r ffyrdd y mae cyflogwyr yn recriwtio pobl. Mae'n dod yn fwyfwy pwysig ymuno â'r rhwydweithiau hyn os ydych o ddifrif ynghylch dod o hyd i waith.

Nawr byddwch yn dysgu ychydig mwy am y cyfryngau cymdeithasol a all fod yn berthnasol i chi o ran datblygu gyrfa.

Facebook, Twitter a LinkedIn

Ar adeg ysgrifennu'r cwrs hwn, y tri phrif lwyfan a all fod o gymorth i lywio eich gwaith neu fywyd yw Facebook, Twitter a LinkedIn. Efallai eich bod yn defnyddio un neu fwy o'r rhain eisoes, ond ar gyfer y sawl nad ydynt yn gyfarwydd â nhw, dyma drosolwg cryno o bob un:

  • Facebook – mae'n eich galluogi i gysylltu â ffrindiau, a hyd yn oed ffrindiau'r ffrindiau hynny. Mae'n darparu lle i rannu eich newyddion, eich safbwyntiau ac eitemau o ddiddordeb. O ran gweithgarwch recriwtio, gall Facebook ddwyn ynghyd recriwtwyr a cheiswyr gwaith, a gellir ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth am ddarpar gyflogwyr sydd â thudalennau Facebook.
  • Twitter - caiff ei ddefnyddio'n bennaf ar ffonau symudol ac mae'n caniatáu i chi anfon negeseuon byr 140 o nodau neu fwy at yr holl bobl sy'n 'dilyn' cyfrif. Gall recriwtwyr ei ddefnyddio i anfon negeseuon at lawer o ddarpar gyflogeion yn gyflym iawn ac felly gall fod yn ffordd dda iawn o gadw golwg ar gyfleoedd. Awgrym defnyddiol: ychwanegwch eich diddordebau gyrfa at eich proffil Twitter. Gwnewch gais bach am waith.
  • LinkedIn – caiff ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer rhwydweithio ym maes 'gwaith'. Pan fyddwch yn creu proffil, bydd y system yn eich cysylltu'n awtomatig â phobl y gallech fod yn eu hadnabod, gan ddefnyddio eich addysg a'ch profiadau gwaith eich hun i ddechrau. Gallwch hefyd gysylltu â sefydliadau ac unigolion a allai gynnig gwaith i chi, neu eich helpu i ddod o hyd iddo. Mae gwahanol lefelau o aelodaeth ond mae'r lefel fwyaf sylfaenol (sy'n rhad ac am ddim) yn fwy na digonol ar gyfer y rhan fwyaf o bobl.

Dechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Gall cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd ddefnyddiol iawn o ehangu eich rhwydweithiau presennol ac felly eich cyfleoedd gyrfa. Er y gallech fod yn teimlo'n ansicr ynglŷn â'u defnyddio, mae'n werth ystyried rhoi cynnig arnynt os nad ydych yn gwneud hynny eisoes.

Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu:

  • Cyfyngwch ar yr amser rydych yn eu defnyddio.
  • Dewiswch wefannau cyfryngau cymdeithasol at ddibenion datblygu gyrfa yn unig.
  • Mewngofnodwch i wefannau cyfryngau cymdeithasol i weld beth sy'n digwydd arnynt. Mae'n iawn gwylio o'r asgell cyn gwneud eich ymddangosiad.

Os byddwch yn penderfynu rhoi cynnig arni, bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i ddefnyddio'r gwefannau'n ddoeth:

  • Byddwch yn ofalus am y wybodaeth rydych yn ei rhannu a gyda phwy rydych yn ei rhannu.
  • Peidiwch â derbyn ffrindiau, dilynwyr neu gysylltiadau newydd heb ofyn cwestiynau priodol i nodi pwy ydynt.
  • Sicrhewch nad yw'r ffordd rydych yn cyfleu eich hun yn tanseilio eich hygrededd yn y gwaith.
  • Ceisiwch osgoi ymateb i sylwadau negyddol am gyn-gydweithwyr neu gydweithwyr presennol, a phobl sydd wedi cyfweld â chi.
  • Meddyliwch am y tôn rydych yn ei defnyddio i gyfathrebu.

Gweithgaredd 16

Caniatewch tua 15 munud

Nodwch y rhwydweithiau rydych yn gysylltiedig â nhw a meddyliwch sut y gallai pob un ohonynt eich helpu i fwrw ymlaen â'ch cynlluniau gyrfa.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Comment

Gobeithio eich bod yn teimlo nawr bod gennych fwy o wybodaeth am y potensial sydd gan rwydweithiau i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa; drwy eich helpu i archwilio eich opsiynau, cyrchu gwybodaeth am gyfleoedd a gwneud cais am swyddi.

Case study

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 6 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu. Os byddwch yn casglu eich bathodyn, gallwch lawrlwytho datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.