Cyflwyniad

Ym Mlociau 1 a 2 rydych wedi cyflawni rhai gweithgareddau a ddylai fod wedi gwella eich hunanymwybyddiaeth, ac wedi cael eich tywys i archwilio cyfleoedd. Rydych wedi treulio llawer o amser fwy na thebyg yn dadansoddi eich bywyd a'ch gyrfa, a dylech fod wedi ystyried eich cryfderau, eich sgiliau a'ch profiad, ac ymchwilio i'r meysydd galwedigaethol sydd o ddiddordeb i chi. Nod y bloc hwn yw eich helpu i wneud penderfyniadau a datblygu cynllun sy'n nodi sut y byddwch yn gweithredu arnynt. Bydd y cyngor, yr arweiniad a'r gweithgareddau isod yn eich helpu i ystyried manteision ac anfanteision penderfyniadau gwahanol, dod o hyd i ffynonellau cymorth a chynllunio camau gweithredu.

Dyma fideo sy'n cyflwyno'r bloc hwn, ac wedyn gweithgaredd a fydd yn gwneud i chi ystyried a oes angen i chi ddiweddaru eich dadansoddiad SWOT.

Gweithgaredd 1

Caniatewch tua 15 munud

Mae un neu ddau reswm pam y gallech fod am ailedrych ar eich canlyniadau SWOT. Efallai bod cryn amser wedi mynd heibio ers i chi gwblhau'r dadansoddiad SWOT ar ddiwedd Bloc 2, ac efallai bod llawer o bethau wedi newid. Er enghraifft, efallai eich bod wedi mynd i'r afael â rhai o'ch gwendidau, neu efallai bod rhai o'r bygythiadau wedi diflannu. Os oes unrhyw beth wedi newid, diwygiwch eich canlyniadau SWOT er mwyn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol.

Fodd bynnag, hyd yn oed os ydych wedi cwblhau eich dadansoddiad SWOT yn ddiweddar a'i fod yn dal yn fyw yn y cof, cymerwch ychydig funudau i fwrw golwg drosto cyn i chi ddechrau Bloc 3. Gofynnwch gwestiynau fel:

  • A oes unrhyw beth yn y canlyniadau yr hoffwn ei newid?
  • Beth yw fy mlaenoriaethau o ran mynd i'r afael â gwendidau a bygythiadau?
  • Beth yw fy mlaenoriaethau o ran adeiladu ar fy nghryfderau ac achub ar gyfleoedd?

Unwaith rydych yn hapus gyda'ch SWOT a'ch bod wedi nodi unrhyw flaenoriaethau, bydd gennych sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen.