Cyn i chi ddechrau arni

Treuliwch ychydig funudau yn ystyried eich anghenion a'ch cyfleoedd dysgu presennol drwy gyflawni Gweithgaredd 1 isod.

Gweithgaredd 1

Caniatewch tua 15 munud

Isod ceir dolen i holiadur byr. Nod yr holiadur yw gwneud i chi ystyried y canlynol:

  • Beth yw eich blaenoriaethau dysgu ar hyn o bryd?
  • Sut mae astudio cwrs byr ar-lein yn cyd-fynd â'ch ffordd o fyw?
  • Pa nodau rydych yn gobeithio eu cyflawni drwy astudio'r cwrs hwn?
  • Holiadur am eich dysgu (1)

Gobeithio, erbyn diwedd y cwrs, y gallwch fyfyrio ar yr atebion rydych wedi'u rhoi.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau'r cwrs!