2.1 Nodau

Beth yw nod?

  • Nodau yw'r hyn rydych ei eisiau allan o fywyd.
  • Gallech ddefnyddio geiriau eraill i ddisgrifio eich nodau, fel 'canlyniadau', 'deilliannau', 'amcanion' neu 'uchelgeisiau'.
  • Pa un a ydynt yn rhai byrdymor neu hirdymor, dylai nodau fod yn realistig ond heriol.
  • Cofiwch y gall eich nodau newid dros amser.

Gweithgaredd 3

Caniatewch tua 15 munud

Beth yw eich nodau? Efallai nad ydych wedi'u nodi'n llawn eto, ond nodwch nhw yn y gofod isod gan roi cymaint o fanylion â phosibl - gallwch ychwanegu atynt yn ddiweddarach wrth i chi fynd ati i'w diffinio'n fwy clir.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)