8.8 Cwestiynau anodd

Mae gan bawb ddealltwriaeth wahanol o'r hyn sy'n gyfystyr â chwestiwn anodd. Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu drwyddynt, ynghyd â rhai enghreifftiau a sut i'w hateb.

Yn gyffredinol:

  • Os byddwch yn teimlo dan bwysau, byddwch yn dueddol o beidio â gwrando mor astud. Gofynnwch i'r cwestiwn gael ei ailadrodd, cymerwch eich amser a chadwch at y pwynt. Pan fyddwch wedi ateb, stopiwch a pheidiwch â dweud mwy.
  • Ceisiwch ddangos eich bod yn deall pam bod y cyfwelwyr wedi gofyn y cwestiwn i chi. Os gallwch ddangos eich bod yn gwybod beth maent yn chwilio amdano, rydych hanner ffordd i roi ateb priodol.
  • Mewn ymateb i gwestiynau annifyr – yn hytrach na rhai anodd – cadwch eich ateb yn syml ac yn gryno.
  • Ceisiwch sicrhau bod eich atebion i gwestiynau anodd yn rhai cadarnhaol. Os nad ydych yn meddu ar sgil penodol, ceisiwch bwysleisio pa mor gyflym rydych yn dysgu a pha mor gyflym y gallwch ddatblygu'r sgil hwnnw.

Enghreifftiau o gwestiynau anodd a sut i'w hateb

  • Beth yw eich gwerth? Ceisiwch ymatal rhag ateb y cwestiwn hwn nes eich bod yn gwybod beth yw cyfrifoldebau a chwmpas y swydd, a'r ystod cyflog arferol. Soniwch am eich cyflog blaenorol ac unrhyw ymrwymiadau ariannol sy'n eich arwain at godi neu ostwng eich disgwyliadau. Efallai y bydd negodiadau fel hyn yn ymddangos yn rhyfedd i chi os ydych ond yn gyfarwydd â graddfeydd cyflog sefydlog.
  • Beth yw eich cryfderau? Byddwch wedi dod yn ymwybodol o'r rhain drwy eich hunanwerthusiad. Defnyddiwch enghreifftiau o'r tri phroffil – personol, proffesiynol a chyflawniadau – a drafodwyd yn Adran 8.5 i lunio darlun cynhwysfawr. Dylech gynnwys unrhyw nodweddion penodol sy'n gysylltiedig â'r swydd yn eich barn chi.
  • Dywedwch wrthyf amdanoch chi eich hun. Dylech gwmpasu agweddau perthnasol ar eich bywyd, e.e. blynyddoedd cynnar (os yw'n briodol), addysg, profiad gwaith, digwyddiadau o bwys.
  • Ar ôl gweithio i un cwmni gyhyd, pa anawsterau rydych yn eu disgwyl wrth addasu i'n diwylliant ni? Nodwch yn glir eich bod yn deall pwysigrwydd y cysyniad o ddiwylliant drwy sôn am yr amrywiaeth o fewn y cwmnïau a'r sefydliadau rydych wedi bod mewn cysylltiad â nhw. Disgrifiwch sut rydych wedi addasu i wahanol is-ddiwylliannau rydych wedi dod ar eu traws.

Gweithgaredd 9

Caniatewch tua 30 munud

Dyma ragor o enghreifftiau o gwestiynau cyfwelwyr i chi eu hystyried.

  • Pam wnaethoch chi benderfynu astudio gyda …?
  • Y cwestiwn tair rhan clasurol: Pa fath o bobl rydych yn hoffi gweithio gyda nhw? Pa fath o bobl rydych yn ei chael hi'n anodd gweithio gyda nhw? Sut rydych wedi gweithio'n llwyddiannus gyda pherson anodd?
  • Beth yw eich nodau byrdymor, tymor canolig a hirdymor?
  • Pam rydych wedi penderfynu newid gyrfa?
  • Beth yw'r prif heriau sy'n wynebu (e.e. y Gwasanaeth Iechyd, addysg, y cwmni hwn ...) heddiw?
  • Ydych chi'n teimlo eich bod yn barod i ateb yr heriau hynny?
  • Does gennych chi ddim profiad o gwbl ar lefel reoli. Sut fyddech chi'n ymdopi â'r broses bontio?
  • Pa mor hir fyddech chi'n disgwyl aros yma?
  • Sut fyddech chi'n disgrifio eich hun?
  • Yn eich swydd bresennol/ddiwethaf, beth ydych/roeddech chi'n ei hoffi fwyaf/lleiaf? Pam? Beth oedd eich llwyddiant mwyaf? Beth oedd eich methiant mwyaf?
  • Beth yw'r agwedd anoddaf ar (e.e. y swydd hon, bod yn rheolwr...) yn eich barn chi?
  • Sut rydych yn ymateb i feirniadaeth?

Ysgrifennwch eich atebion isod.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 8 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.