Transcript

Croeso i'r cwrs Cynllunio dyfodol gwell. Drwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn cymryd eich camau cyntaf tuag at ddatblygu dyfodol gwell i chi'ch hun.

Gall fod nifer o resymau pam eich bod wedi dewis astudio'r cwrs hwn; er enghraifft, er mwyn eich helpu i feddwl am ble rydych yn mynd yn eich gyrfa a'r hyn yr hoffech ei gyflawni, neu oherwydd diddordeb personol ac i feithrin eich hyder fel dysgwr.

Os byddwch yn cwblhau'r asesiad byr ar ddiwedd pob adran, cewch gasglu bathodynnau. Rhoddir y bathodynnau rhithwir hyn i gydnabod yr hyn rydych wedi'i ddysgu a gallwch eu harddangos ar eich proffiliau cyfryngau cymdeithasol – er enghraifft, LinkedIn a Facebook.

Rhennir Cynllunio dyfodol gwell yn dair adran. Yn Adran 1, byddwch yn ystyried sut rydych wedi cyrraedd yma, yn myfyrio ar eich rolau mewn bywyd a'ch hyder wrth gyflawni'r rolau hynny, a'r profiadau cadarnhaol a negyddol rydych wedi'u cael; ac yn nodi eich cryfderau, eich gwendidau a'r cyfleoedd a'r bygythiadau sy'n eich wynebu.

Bydd Adran 2 yn ystyried ble rydych am fynd, a'r newidiadau rydych am eu gwneud. Bydd yr adran hon yn eich galluogi i gasglu gwybodaeth ac ystyried yr opsiynau sydd ar gael i chi. Yn olaf, bydd Adran 3 yn ystyried sut y gallwch gyrraedd eich cyrchfan fwriadedig. Bydd hyn yn cynnwys llunio eich cynllun gweithredu eich hun ac ystyried cyfleoedd posibl i wneud profiad gwaith, gwaith gwirfoddol, rhwydweithio a chreu cysylltiadau. Bydd yr adran hon hefyd yn trafod sut i gwblhau ceisiadau am swyddi, ac yn eich paratoi ar gyfer cyfweliadau. Yn olaf, byddwch yn ystyried defnyddio cyfryngau cymdeithasol i'ch helpu i rwydweithio.

Ar ddiwedd y tair adran, cewch wybodaeth am y camau nesaf a fydd yn eich cyfeirio at wefannau ac adnoddau perthnasol sy'n gysylltiedig â datblygu eich dysgu ymhellach mewn perthynas â chynllunio dyfodol gwell.

Byddem yn eich annog i astudio pob adran o'r cwrs hwn gan fod pob adran yn berthnasol i'r un nesaf ac yn cyfeirio'n aml at weithgareddau a gyflawnwyd eisoes. Mae'r cwrs yn hyblyg ac nid oes unrhyw derfyn amser er mwyn ei gwblhau. Gallwch ei astudio fesul tipyn, gan weithio pa bynnag bryd y dymunwch.

Rydym yn argymell eich bod yn ymgymryd â phob un o'r adrannau er mwyn cael datganiad cyfranogi ar y diwedd sy'n cydnabod y deilliannau dysgu a gyflawnwyd gennych. Gallwch ddangos y datganiad hwn i'ch cyflogwr wedyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu, os dymunwch wneud hynny.

Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o weithgareddau dan arweiniad a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich ymarfer eich hun, a chyfres o gwisiau rhyngweithiol ar ddiwedd pob adran a fydd yn rhoi cyfle i chi ennill eich bathodyn ar gyfer yr adran honno. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi siarad am eich gwaith ar y cwrs hwn gyda ffrind, partner neu gydweithiwr. Efallai y bydd hyn yn helpu i gynnal eich cymhelliant ac yn rhoi syniadau newydd i chi hefyd.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r cwrs, a phob lwc i chi wrth ddatblygu gyrfa yn y dyfodol.