Transcript

Croeso i Bloc 3. Yn y bloc diwethaf, gwnaethom ystyried yr hyn sy'n bwysig i chi a'r hyn a fyddai'n eich galluogi i greu dyfodol gwell i chi eich hun. Unwaith y dechreuoch ystyried yr agweddau hyn, efallai y gwnaeth eich cynlluniau gyrfa neu gynlluniau bywyd newid neu efallai y daethant yn fwy heriol. Felly, byddwch yn dechrau drwy edrych yn ôl ar eich dadansoddiad SWOT unwaith eto.

Mae sefyllfaoedd personol pawb a'r heriau sy'n eu hwynebu yn wahanol ac, yn y bloc diwethaf, gwnaethoch dreulio llawer o amser yn ystyried eich opsiynau a ffynonellau gwybodaeth gwahanol. Ym Mloc 3, byddwch yn datblygu cynlluniau realistig a fydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau. Gobeithio y byddwch yn mwynhau Bloc 3 ac y bydd yr adran camau nesaf yr un mor bleserus a defnyddiol. Gobeithio bod y cwrs wedi bod yn un difyr, a phob lwc gyda'r broses o gynllunio dyfodol gwell i chi eich hun.