3 Pa mor fodlon ydwyf gyda'm hamgylchiadau presennol?

Mae gweithgaredd 4 yn canolbwyntio ar eich amgylchiadau presennol ac yn gofyn i chi nodi pa mor fodlon ydych gyda'ch gwaith mewn nifer o feysydd. Os nad ydych mewn gwaith â thâl ar hyn o bryd, meddyliwch am eich bywyd yn gyffredinol.

Gweithgaredd 4

Caniateir tuag 20 munud

Rhan 1

Ewch i'r templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau ac edrychwch drwy'r rhestr o ffactorau, gan gylchu neu dynnu sylw at y lefel sy'n berthnasol i'ch amgylchiadau presennol.

Rhan 2

Nawr ysgrifennwch baragraff yn seiliedig ar y dewisiadau a wnaethoch uchod, gan eithrio unrhyw eitemau a oedd 'Yn iawn' neu 'Yn ddigonol'. O'r eitemau sy'n weddill, allwch chi ddweud pa rai yw'r pwysicaf i chi a pham?

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Comment

Gobeithio bod Gweithgareddau 2–4 wedi:

  • awgrymu'r hyn sydd bwysicaf i chi yn eich bywyd a'ch gwaith
  • eich helpu i nodi meysydd gwaith sy'n cyfateb i'ch diddordebau
  • egluro pam rydych yn fodlon neu'n anfodlon â'ch sefyllfa bresennol.

Efallai y bydd eich atebion yn dechrau awgrymu naill ai'r math o waith yr hoffech ei wneud neu'r math o sefydliad yr hoffech weithio iddo, yn ogystal â faint o waith y byddech yn hoffi ei wneud yn ddelfrydol. Bydd y gweithgaredd nesaf yn rhoi syniad gwell i chi o ble rydych yn sefyll ar y pwynt olaf hwn.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 3 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.