5 Adolygu

O edrych yn ôl ar eich canlyniadau SWOT a'r nodiadau a wnaed ar gyfer y gweithgareddau a gwblhawyd yn y bloc hwn, dylai fod gennych ddarlun llawer cliriach nawr am eich:

  • galluoedd
  • gwerthoedd
  • diddordebau
  • dewisiadau gwaith
  • amgylchiadau presennol.

Lluniwch grynodeb o'r hyn rydych wedi'i ddysgu gan ddefnyddio'r awgrymiadau isod.

Gweithgaredd 6

Caniatewch tua 30 munud

Beth rwy'n dda yn ei wneud?

Ysgrifennwch y galluoedd y byddech yn hoffi eu defnyddio fwyaf?

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Beth yw fy mhrif werthoedd?

Ysgrifennwch y gwerthoedd yr hoffech eu cyflawni.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Beth hoffwn ei wneud?

Ysgrifennwch y galwedigaethau neu'r meysydd swydd yr hoffech weithio ynddynt.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Sut hoffwn weithio gyda phobl? Pa fath o amgylchedd?

Ysgrifennwch y math o gyswllt yr hoffech ei gael gyda phobl, a'r math o amgylchedd yr hoffech weithio ynddo.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Pa agweddau eraill sy'n bwysig i mi?

Ysgrifennwch unrhyw ffactorau eraill sy'n bwysig i chi, fel lleoliad, teithio, strwythur y sefydliad ac ati.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Pa newidiadau yr hoffwn eu gwneud?

Ysgrifennwch rai newidiadau yr hoffech eu gwneud i'ch bywyd a'ch gwaith.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 5 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.