Pam y dylech astudio'r cwrs hwn?

Bydd y fideo hwn yn rhoi rhywfaint o gefndir i chi ynghylch pam y gallech fod eisiau astudio'r cwrs hwn.

Bydd y gweithgareddau o dan arweiniad a gyflwynir drwy gydol y cwrs hwn yn eich helpu i fyfyrio ar eich profiadau bywyd er mwyn eich helpu i gynllunio ar gyfer dyfodol gwell. Drwy gydol y cwrs, bydd gweithgareddau a fydd yn gofyn i chi ysgrifennu eich meddyliau a'ch teimladau yn seiliedig ar y materion sy'n cael eu trafod. Gofynnir rhai cwestiynau syml a fydd yn eich annog i feddwl mewn ffordd benodol. Byddai'n ddefnyddiol i chi dreulio rhywfaint o amser yn ystyried yr hyn rydych wedi'i ddysgu ym mhob adran, a'r cysylltiad rhyngddo â'ch sefyllfa bresennol a'ch nodau yn y dyfodol.

Nid prawf yw'r gweithgareddau hyn. Bwriedir iddynt eich helpu i fyfyrio'r fanylach ar yr hyn rydych wedi'i ddarllen. Darperir y gofodau ar gyfer y gweithgareddau hyn at eich defnydd eich hun er mwyn eich helpu i nodi'r hyn rydych wedi'i ddysgu. Ni fydd neb arall yn gweld yr hyn y byddwch yn ei ysgrifennu yma. Y nod yw eich helpu i fod yn fwy myfyriol a dwyn agweddau ar eich profiadau personol a'ch profiadau yn y gwaith ynghyd er mwyn i chi allu eu hadolygu a dysgu ohonynt.

Dyma gyfweliad gyda Steven Donoghue am gyfuno gwaith ac astudio.