Transcript

JEAN
Beth sydd o'i le? Beth sy'n bod?
THOMAS
Roedd Dominic yn fy nilyn i.
JEAN IONTA
Rwy'n credu ei fod e' am chwarae gyda ti a bod yn ffrind i ti.
SUSAN O'DONNELL
Mae Jean yn un o'n cynorthwywyr cymorth disgyblion. Mae ar yr iard bob bore am chwarter i naw. Dau fore'r wythnos, mae'n dechrau am wyth o'r gloch ac mae'n casglu'r holl lungopïau cyn mynd allan i'r iard.
JEAN
Dominic, dere draw ata' i. Iawn. Mae Thomas am fod yn ffrind i ti. Felly, beth wyt ti'n ei wneud? Ysgwyd llaw. Ysgwyd llaw.
DOMINIC
Sori.
JEAN
Sori? Iawn. Bant â chi. Iawn?
JEAN IONTA
Mae'n werthfawr i'r plant am eu bod nhw'n cael cyfle i gwrdd â'u ffrindiau cyn iddyn nhw fynd i mewn i'r ysgol, chwarae gyda'u ffrindiau, ymlacio tipyn. Mae'r iard yn llawn hwyl a sbri iddyn nhw. Maen nhw'n dod i'r iard i gwrdd â'u ffrindiau, chwarae, sgwrsio, siarad am beth wnaethon nhw neithiwr. Ac maen nhw'n dod i mewn. Byddan nhw'n hapus erbyn iddyn nhw fynd i mewn i'r dosbarth. Wedi ymlacio, ac yn barod i ddechrau'r diwrnod.
Beth oedd ei broblem e' gyda hyn?
SIARADWR 1
Roedd y bêl yna draw fan 'na.
JEAN IONTA
Maen nhw'n chwarae gyda'r bêl yna.
Mae'n rhaid i chi fod yn bwyllog iawn am fod llawer yn digwydd yno ac maen nhw'n dechrau'r holl gwerylon hyn. Ond maen rhaid i chi gadw'r heddwch oherwydd mae'n rhaid i'r plant allu dibynnu arnoch chi ac ymddiried ynddoch chi. Ac mae'n rhaid iddyn nhw wybod eich bod chi'n gwrando.
THOMAS
Iawn.
JEAN IONTA
Hoffwn i gael dy ymbarel di bore 'ma. Mae Mrs. Ionta yn wlyb at ei chroen bore 'ma.
SUSAN O'DONNELL
Rydyn ni'n diolch i Dduw am ein bore, yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, amen. Sefwch i weddïo, os gwelwch yn dda.
JEAN IONTA
Ei phrif ddyletswydd yw bod Jean yn gymorth dysgu ychwanegol, PSA. Mae gan Jean gymhwyster Anogaeth ac mae'n gweithio ar bwynt saith yn yr ystafelloedd Anogaeth.
JACQUELINE WHITE
Bore 'ma, rydyn ni'n mynd i orffen y pypedau wnaethon ni eu dechrau ddoe. Doeddet ti ddim yma Michael, ond rwy’ wedi trefnu rhywbeth i ti, iawn? Felly, Mrs. Ionta, allech chi fynd i nôl y pypedau?
JEAN IONTA
Wrth gwrs.
JACQUELINE WHITE
Michael, alli di fynd i nôl pum tywel sychu dwylo? Alli di fynd i nôl saith ffon glud, os gweli di'n dda.
JEAN IONTA
O. Fan 'na rhywle, Aidan.
JACQUELINE WHITE
Mae Jean yn derbyn llawer o'r cyfrifoldebau y gallwn i eu cyflawni, ond mae'n dda iawn ac yn abl iawn. Ac rydyn ni wedi creu'r berthynas sydd rhyngddon ni nawr drwy flynyddoedd o brofiad o gydweithio a datblygu'r tîm.
SIARADWR 2
Chwech dwbwl.
JEAN IONTA
Mae hynny'n dda iawn, mae'n beth da rhannu dy ddarn lle gyda hi. Rwy'n meddwl y bydd hi'n newid o wyneb trist i wyneb hapus.
Mae'n rhaid i chi weithio'n dda gyda'ch gilydd. Rydych chi'n dod i adnabod eich gilydd a'ch cryfderau yn eithaf da. Yn yr ystafell Anogaeth, gwaith tîm sy'n bwysig.
O'r gorau, eisteddwch ble roeddech chi. Fe ddof i draw fan hyn. O, does dim ots ganddo fe gael plât papur, oes, Michael?
ANTON GALLAGHER
O'r gorau, gadewch i ni edrych ar rif dau.
JEAN IONTA
Ond pan rwy yn y dosbarth, rwy' yno i gynorthwyo'r plant.
ANTON GALLAGHER
Odrif neu eilrif. Peidiwch â gweiddi'r ateb. Pwy all ddweud wrtha' i pam ei fod yn eilrif? Melissa?
MELISSA
Am fod dau yn eilrif.
ANTON GALLAGHER
Mae hynny'n gywir. Dau yw'r rhif diwethaf, ondyfe? Ac mae'n eilrif. Ac mae pob rhif sy'n gorffen gyda dau yn?
PLANT
Eilrif.
ANTON GALLAGHER
Yn eilrif, mae hynny'n gywir.
JEAN IONTA
Mae bachgen newydd o gefndir Tsieineeg wedi ymuno â ni'n ddiweddar. Saesneg yw ei ail iaith. Felly mae angen ychydig o help ychwanegol arno rhag ofn nad yw e'n deall yn iawn beth mae'r athro dosbarth yn ei egluro. Felly, rwy' yno i egluro a helpu mewn unrhyw ffordd bosibl.
ANTON GALLAGHER
Ar ôl i chi wneud hynny, plethwch eich brechiau i ddangos i mi eich bod chi'n barod.
SIARADWR 3
Tri?
JEAN IONTA
Pedwar. Rho bedwar. Rhif pedwar.
ANTON GALLAGHER
Rwy'n credu i ni weithio'n dda gyda'n gilydd. Roedden ni wedi gallu trafod ymlaen llaw beth y gallai'r plant ei wneud gyda rhywfaint o gymorth. Ac rwy'n credu i hynny weithio'n dda.
Ar ôl i chi wneud hynny, plethwch eich brechiau i ddangos i mi eich bod chi'n barod. Os ydych chi'n meddwl mai eilrif yw e' ...
SUSAN O'DONNELL
Amser cinio, mae Jean hefyd yn helpu i lanhau dannedd fel rhan o brosiect glanhau dannedd ar gyfer blynyddoedd un a dau ysgolion cynradd. A phob dydd Mawrth, mae'n aros ar ôl i helpu gyda drama a dawns.
JEAN IONTA
'We Could Have Been Anything That We Wanted to Be?' Dwi ddim yn gyfarwydd â'r ddawns. Rwy'n credu bod Laura wedi bod yn gwneud y ddawns.
SIARADWR 4
Ddim yn dda. Ddim yn dda.
JEAN IONTA
Rwy'n credu eu bod nhw'n dechrau dysgu. Roedden nhw'n ymarfer yn gynharach.
SIARADWR 4
Iawn. [HYMIAN YR ALAW]
JEAN IONTA
Ble maen nhw'n sefyll, Mrs. O'Donnell? Ydyn nhw i gyd i fod i sefyll ...
SUSAN O'DONNELL
Ymm, na.
JEAN IONTA
Rwy’ wedi cael fy newis i helpu am fy mod i'n dawnsio rhywfaint yn fy amser sbâr. Rwy'n dawnsio llinell.
Rydych chi'n helpu gyda'r canu. Rydych chi'n helpu gyda'r canu.
SUSAN O'DONNELL
Tri, pedwar a ...

[PLANT YN CANU – "WE COULD HAVE BEEN ANYTHING THAT WE WANTED TO BE"]

JEAN IONTA
Rwy'n credu ei bod yn ffordd wych iddyn nhw ollwng stêm a theimlo'n dda amdanyn nhw eu hunain, oherwydd mae'n llawer o hwyl. Rwy'n credu mai'r gwahaniaeth rhyngof fi a'r athro yw bod y plant yn ymlacio mwy gyda fi. Felly efallai fy mod i'n gweld y plant mewn ffordd wahanol. A dwi ond yno i'w helpu.

[PLANT YN CANU – "WE COULD HAVE BEEN ANYTHING THAT WE WANTED TO BE"]