Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Gweithwyr cynorthwyol mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill

Ers i grŵp newydd o weithwyr cynorthwyol gael ei greu yn y gwasanaethau cyhoeddus, mae rolau a ffiniau galwedigaethol traddodiadol wedi'u hailstrwythuro ac mae gweithwyr proffesiynol yn dirprwyo rhai o'u dyletswyddau i eraill yn y gweithle. Bellach, mae cynorthwywyr gofal iechyd, er enghraifft, yn helpu gyda gofal cleifion a dyletswyddau ar wardiau dan oruchwyliaeth nyrs neu fydwraig gofrestredig. Mae eu dyletswyddau yn cynnwys:

  • helpu i ddarparu safon uchel o ofal i gleifion, hyrwyddo cydraddoldeb ac urddas cleifion bob amser
  • helpu cleifion gyda'u hylendid, symudedd, cysur corfforol a'u helpu i fwyta ac yfed, gan eu harsylwi a rhoi gwybod i'r nyrs gofrestredig am unrhyw newidiadau penodol
  • rhoi cymorth i berthnasau a ffrindiau cleifion
  • mesur tymheredd, curiad calon, cyfradd anadlu a phwysedd gwaed claf a chofnodi arsylwadau clinigol arnynt
  • mesur taldra a phwysau claf.

Cyn i'r rolau newydd hyn gael eu creu, nyrs gofrestredig oedd yn cyflawni'r cyfrifoldebau hyn. Bellach, mae cynorthwywyr gofal iechyd yn rhoi cymorth i nyrsys gan ryddhau'r staff nyrsio i wneud tasgau eraill sy'n galw am fwy o wybodaeth, cymwysterau a sgiliau. Wrth edrych ar y dyletswyddau sydd wedi'u rhestru uchod, efallai i chi nodi'r tebygrwydd cyffredinol rhwng y mathau o gyfrifoldebau sy'n cael eu rhoi i gynorthwyydd gofal iechyd a chynorthwyydd addysgu a'r mathau o sgiliau sydd eu hangen arnynt yn y gweithle. Yn wir, p'un a oes gennych gymwysterau cymorth cyntaf neu wybodaeth feddygol ai peidio, gallech fod yn meddwl 'Gydag arweiniad, gallwn i wneud rhai o'r dyletswyddau hynny.' Byddai hyn yn awgrymu bod gan gynorthwywyr addysgu rai sgiliau trosglwyddadwy sy'n berthnasol i fathau eraill o waith parabroffesiynol.