Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Cynorthwyo athrawon

Yn Lloegr, mae camau i 'ailfodelu'r gweithlu' yn golygu bod mwy o bwyslais nag erioed yn cael ei roi ar rôl oedolion sy'n gweithio mewn ysgolion, yn enwedig cynorthwywyr addysgu. Mae cynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU) wedi ymgymryd â llawer o'r dyletswyddau gweinyddol a gyflawnwyd yn flaenorol gan athrawon a gallant oruchwylio dosbarthiadau plant pan fo athrawon yn absennol. Mae uwch gynorthwywyr addysgu wedi ymgymryd â rolau rheoli, gan oruchwylio gwaith cynorthwywyr addysgu a myfyrwyr ar brofiad gwaith.

Wrth feddwl am y gweithlu cynorthwywyr addysgu, mae'n bwysig hefyd cofio'r nifer fawr o gynorthwywyr addysgu gwirfoddol di-dâl. Yn ôl Smith (2011), roedd 126,300 o gynorthwywyr addysgu cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cyflogi mewn ysgolion meithrin a chynradd a gynhelir gan awdurdodau lleol yn Lloegr ym mis Ionawr 2010. Mae tua dwywaith yn fwy o athrawon ond mae'r ffordd y caiff cynorthwywyr eu cyflogi, ar gontractau rhan amser yn aml, yn golygu 'fel cyrff' y gallai fod cynifer ohonynt ag sydd o athrawon mewn unrhyw ysgol. Fel arfer, nid yw awdurdodau lleol yn cadw cofnod o nifer y cynorthwywyr addysgu gwirfoddol. Gryn amser yn ôl, fodd bynnag, nododd arolwg cenedlaethol o ysgolion cynradd, arbennig ac annibynnol yn Lloegr (LGNTO, 2000) fod gan bob ysgol 8.5 o aelodau o staff gwirfoddol ar gyfartaledd (gan gynnwys rhai rhan amser). Felly, mae gwirfoddolwyr yn amlwg yn adnodd pwysig, er na chânt ddigon o gydnabyddiaeth, mewn llawer o ysgolion ac, yn wir, y gweithlu ehangach.

Cafodd statws cynorthwyydd addysgu lefel uwch (CALU) ei gyflwyno yng Nghymru yn 2004 a chaiff ei ddefnyddio'n rhanbarthol er mwyn helpu i ddiwygio gweithlu'r sector ysgolion cynradd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £240,000 y flwyddyn i ariannu hyd at 250 CALU. Yn sgil hyn, mae tua 2,000 o ymgeiswyr wedi llwyddo i ennill statws CALU.

Mae cyflwyno statws CALU yng Nghymru wedi helpu i sicrhau y caiff cynorthwywyr addysgu eu cydnabod fwyfwy fel staff medrus a phrofiadol a all gyflawni rolau mwy cyfrifol er mwyn helpu plant i ddysgu a bod yn rheolwyr llinell i staff cymorth eraill.

Yn 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n adolygu menter CALU. Nod yr adolygiad hwn oedd mireinio 'safonau proffesiynol' CALU fel eu bod yn rhoi llwybr gyrfa cliriach i ymarferwyr addysg yng Nghymru ac yn cysylltu â strategaethau rheoli perfformiad mwy ffurfiol, gan arwain at ragor o gyfleoedd o ran datblygiad proffesiynol parhaus. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cryfhau'r cysylltiad rhwng 'safonau proffesiynol' CALU â'i blaenoriaethau parhaus eraill, fel 'gwella llythrennedd a rhifedd a mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad ymhlith dysgwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol gwael'.

Yng Nghymru, mae'r Cyfnod Sylfaen a gyflwynir yn y Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3-7 oed (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008a), y Fframwaith Sgiliau ar gyfer Dysgwyr 3-19 oed yng Nghymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008b) a'r Rhaglen Gymorth Genedlaethol (Llywodraeth Cymru, 2013c) wedi tynnu sylw at yr angen am ragor o hyfforddiant perthnasol i bob ymarferydd addysg, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu.

Yn ôl fframwaith y Cyfnod Sylfaen, rhaid cael cymhareb o un oedolyn i bob wyth plentyn, sy'n golygu bod hyd yn oed mwy o angen am ragor o gynorthwywyr addysgu hyfforddedig.

Mae Rhaglen Gymorth Genedlaethol Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i roi Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) ar waith (Llywodraeth Cymru, 2013b). Mae cydran llythrennedd y FfLlRh yn nodi'r lefelau y mae disgwyl i ddisgyblion eu cyflawni o ran darllen, ysgrifennu a llafaredd, tra bod y gydran rhifedd yn amlinellu disgwyliadau o ran datblygu sgiliau rhesymu rhifiadol a defnyddio sgiliau rhif, data a mesur. Mae disgyblion ym Mlynyddoedd 2 hyd at Flwyddyn 9 yn sefyll profion darllen a rhifedd. Hefyd, mae FfLlRh yn cael ei ddefnyddio bellach fel adnodd i gynllunio'r cwricwlwm ar draws y sector cynradd yng Nghymru. Felly, un o effeithiau'r Rhaglen Gymorth Genedlaethol a FfLlRh yw eu bod wedi cynyddu llwyth gwaith athrawon, sy'n golygu bod mwy o gyfleoedd i gynorthwywyr addysgu chwarae rolau newydd fel rhan o dimau staff ysgolion cynradd.