1.3 Sgiliau proffesiynol a phersonol
Mae Jean Ionta yn gweithio fel cynorthwyydd cymorth disgyblion yn Ysgol Gynradd St Patrick's yn Glasgow. 'Cynorthwyydd cymorth disgyblion' yw'r teitl a roddir i gynorthwywyr addysgu yn yr Alban. Maent yn aml yn rhoi cymorth dysgu arbenigol a chymorth mwy cyffredinol i athrawon. Wrth ffilmio'r fideos ar gyfer yr uned hon yn yr ysgol, gwnaethom ganolbwyntio ar Jean wrth iddi weithio gyda'r plant a'r staff. Gwnaethom ddwyn yr agweddau hyn ar ei gwaith ynghyd er mwyn rhoi syniad i chi o'i diwrnod gwaith, gan dynnu sylw at y sgiliau proffesiynol a phersonol y mae'n eu defnyddio yn ei rôl.
Gweithgaredd 1 Diwrnod ym mywyd

Wrth i chi wylio'r fideo, nodwch yn y blwch isod sut mae Jean yn gwneud ei gwaith, sut mae'n disgrifio ei gwaith a sut mae eraill yn portreadu ei chyfraniad. Yn benodol, nodwch sut mae'n pwysleisio datblygiad cymdeithasol a phersonol plant a'i rôl yn hyn o beth. Sut byddech yn disgrifio'r ffordd y mae'n ymwneud â'r plant a'r ffordd y mae'n eu helpu i ddysgu?
Cyflwynir y fideo hwn yn Saesneg, a cheir trawsgrifiad Cymraeg isod.

Transcript
[PLANT YN CANU – "WE COULD HAVE BEEN ANYTHING THAT WE WANTED TO BE"]
[PLANT YN CANU – "WE COULD HAVE BEEN ANYTHING THAT WE WANTED TO BE"]
Sylwadau
Tua diwedd y fideo, dywed Jean ei bod yn teimlo 'the children are relaxed with me'. Mae'n ymddangos bod y sylw hwn yn cyfeirio at y cyfleoedd niferus i feithrin cydberthnasau a ddangosir yn y fideo hwn. Mae gwaith cymorth dysgu yn galluogi cynorthwywyr i feithrin a datblygu cydberthnasau â phlant, a hynny efallai mewn ffordd sydd weithiau'n amhosibl i athrawon cymwys. Mae'n rhaid i athrawon gymryd cam yn ôl yn aml gan 'oruchwylio' ac arwain grwpiau mawr o blant. Yn eu gwaith agos gyda phlant, gall cynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr cymorth disgyblion ddod ar draws cyfleoedd addysgu gwahanol a phwysig. Byddem yn dadlau bod gan gynorthwywyr, efallai yn fwy nag athrawon, gyfleoedd i ddatblygu dulliau greddfol ('intuitive') (Houssart, 2011) a meithringar ('nurturing') (Hancock, 2012).