1.5 Ffyrdd o weithio a chyfrannu
Mae cynllun ffisegol y rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn adlewyrchu'r disgwyliad bod athrawon yn gweithio mewn ystafelloedd dosbarth gyda nifer fawr o blant. Mewn gwirionedd, gan fod dosbarthiadau mor fawr, mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn teimlo'n eithaf llawn. Mae nifer y cynorthwywyr addysgu a gyflogir yn golygu bod nifer yr oedolion sy'n gweithio mewn rhai ystafelloedd dosbarth wedi dyblu ac, fel y nododd Schlapp a Davidson (2001), mae hyn weithiau wedi'i gwneud hi'n anodd i gynorthwywyr addysgu ddod o hyd i leoedd gwaith iddynt hwy eu hunain. Yn aml, maent yn rhoi cymorth wrth weithio ochr yn ochr ag athrawon, gan roi cymorth pellach mewn lleoliad arall. Yn eu harolwg o 275 o gynorthwywyr addysgu mewn dau awdurdod lleol yn Lloegr, nododd Hancock et al (2002) i 91 y cant o'r ymatebwyr ddweud eu bod weithiau'n tynnu plant allan o ystafelloedd dosbarth.

Mae ymdeimlad pellach bod cynorthwywyr addysgu wedi gorfod dod o hyd i 'le' i'w gwaith. Fel rhan o weithlu cymharol newydd, maent wedi gorfod integreiddio eu hymarfer cymorth ag ymarfer addysgu parhaus athrawon a gweithio fel rhan o 'dîm' addysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Gweithgaredd 2 Cyd-destunau ar gyfer cymorth dysgu
Mae'r fideo canlynol yn dangos cynorthwywyr addysgu mewn llawer o gyd-destunau gwaith. Cafodd y naw clip byr yn y fideo hwn eu recordio yn ystod ymweliadau ag ysgolion cynradd ledled y DU.
Wrth i chi wylio'r fideo, gwnewch nodiadau yn y blwch isod ar rolau a chyd-destunau'r cynorthwywyr addysgu hyn. Os ydych yn cyflawni rôl cymorth dysgu neu wedi gwneud hynny yn y gorffennol, ystyriwch i ba raddau y mae'r bobl yn y clipiau hyn yn adlewyrchu eich rôl a'ch cyd-destunau gwaith amrywiol chi. Pa rolau cynorthwyo addysgu sydd debycaf i'ch profiad chi?
Cyflwynir y fideo hwn yn Saesneg, a cheir trawsgrifiad Cymraeg isod.

Transcript
Sylwadau
Ar un adeg, roedd disgwyl i athrawon weithio mewn ysgolion heb y math o gymorth a ddarperir gan y cynorthwywyr addysgu yn y fideo hwn, felly mae'n werth ystyried sut mae cynorthwywyr addysgu wedi'u hintegreiddio yng ngweithlu ysgolion cynradd. Mae'n sicr y byddai staff mewn ysgolion cynradd yn dadlau bod mawr angen hyn, gan fod rhaid cael mwy o oedolion er mwyn diwallu anghenion personol, cymdeithasol ac addysgol plant. Yn swyddogol, y cyfiawnhad dros y ddarpariaeth hon yw bod cynorthwywyr addysgu yn helpu i 'godi safonau' mewn meysydd o'r cwricwlwm a gaiff eu mesur. Yn amlwg, mae hyn yn bwysig, ond ar yr un pryd mae fel pe bai'n bychanu eu cyfraniad, sy'n llawer ehangach. Er enghraifft, mae'r fideo yn dangos gallu pob cynorthwyydd addysgu nid yn unig i helpu plant i ddysgu, ond hefyd i ryngweithio ac ymdeimlo â phlant mewn ffyrdd sy'n gwella eu hunanddelwedd a'u profiadau o fywyd ysgol.