Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.6 Twf y gweithlu cynorthwywyr addysgu

Rhwng canol y 1990au a 2012, gwelwyd cynnydd ym mhedair gwlad y DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) yn nifer y cynorthwywyr addysgu a oedd yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon yn ystafelloedd dosbarth ysgolion cynradd. Fel y dywedwyd eisoes, dechreuodd y datblygiad hwn yn y 1980au pan gyflogwyd staff cymorth er mwyn helpu i gynnwys plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ystafelloedd dosbarth prif ffrwd. Recriwtiwyd cynorthwywyr addysgu er mwyn rhoi help mwy personol i'r plant hyn. Mewn rhai rhannau o'r DU, mae gweinyddesau meithrin wedi gweithio ers tro mewn ystafelloedd dosbarth meithrin a babanod lle credir bod angen cymhareb uwch o oedolion i weithio gyda phlant bach.

Mae'r twf cyflym mewn cynorthwywyr addysgu a ddechreuodd ar ddechrau'r 2000au wedi cyflwyno rolau newydd, fel mentor dysgu, CALU a chynorthwyydd cymorth rhieni. Awgrymodd Will Swann a Roger Hancock (2003, t.2) y gwelwyd 'dramatic shift in the composition of the primary classroom workforce'. I raddau helaeth, digwyddodd y cynnydd hwn o ganlyniad i raglenni gwariant penodol gan lywodraethau ledled y DU. Yn Lloegr, yn enwedig, rhoddwyd pwyslais pendant ar dargedau llythrennedd a rhifedd cenedlaethol ar ddiwedd y 1990au a dechrau'r 2000au, a darparwyd arian er mwyn recriwtio cynorthwywyr addysgu i gefnogi'r un plentyn ym mhob pedwar nad oedd yn gwneud y cynnydd gofynnol (Hancock ac Eyres, 2004).

Felly, mae cynorthwywyr gwirfoddol a chyflogedig yn rhan o ddatblygiad hanesyddol mawr sy'n cael effaith bellgyrhaeddol ar drefn addysg gynradd, profiadau'r plant mewn ystafelloedd dosbarth a'r ffyrdd y caiff plant eu haddysgu mewn ysgolion. Yn eu hadroddiad ar eu hastudiaeth fawr, 'The Deployment and Impact of Support Staff in Schools’ (DISS) project, mae Blatchford et al. (2012) yn cyfeirio at ystadegau gan y llywodraeth sy'n dangos bod nifer y swyddi i gynorthwywyr addysgu cyfwerth ag amser llawn ym mhob ysgol brif ffrwd yn Lloegr wedi treblu ers 1997 i gyfanswm o 170,000 yn 2010. Roedd hyn yn cyfateb i 24 y cant o'r gweithlu mewn ysgolion prif ffrwd yn gyffredinol ac, yn fwy penodol, 32 y cant o'r gweithlu mewn ysgolion meithrin a chynradd prif ffrwd. Nododd Blatchford et al. hefyd, erbyn 2010, fod cynorthwywyr addysgu yn cyfrif am 44 y cant o'r gweithlu mewn ysgolion cynradd yng Nghymru a 24 y cant yn yr Alban.