Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.9 Cynorthwywyr addysgu a'r Brifysgol Agored

Rhwng 1995 a 2012, hyfforddodd y Brifysgol Agored ychydig dros 8,000 o gynorthwywyr addysgu drwy ei chwrs E111 Cefnogi dysgu mewn ysgolion cynradd a'i chwrs ar gyfer Cynorthwywyr Athrawon Arbenigol sydd bellach wedi dod i ben. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn fenywod ac roedd llawer ohonynt yn famau; canran fach iawn o ddynion a hyfforddwyd. Mae Heather Wakefield (2003), pennaeth cyswllt â llywodraeth leol UNSAIN, sef un o undebau llafur mwyaf y DU sy'n cynrychioli staff sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, yn pwysleisio'r cysylltiad rhwng gwaith gofalu yn y sector cyhoeddus a'r ffaith mai menywod sy'n cael eu recriwtio gan amlaf i'r gweithlu 'parabroffesiynol'. Mae'n awgrymu bod rôl y fenyw yn y cartref a'r teulu yn cael ei 'mewnforio' i'r gweithle gan ei bod yn werthfawr mewn sawl ffordd, yn enwedig ei gallu i gefnogi a gofalu. Fodd bynnag, mae Wakefield yn pwysleisio nad yw'r gwaith hwn wedi talu'n dda yn draddodiadol a'i fod wedi cael statws 'gweithiwr llaw' isel gan gyflogwyr.

Roedd gan lawer o'r cynorthwywyr addysgu sydd wedi astudio â'r Brifysgol Agored hyd yma blant a gafodd eu haddysgu yn yr ysgol lle roeddent yn gweithio, felly roeddent yn byw'n lleol ac yn rhan o gymuned ehangach yr ysgol. Felly, yn amlwg, mae ysgol leol yn weithle cyfleus i riant, gan ei fod yn lleihau'r daith o'r cartref i'r gwaith. Mae hefyd yn galluogi'r rhai a gyflogir mewn ysgolion i weithio yn ystod oriau ysgol a chymryd amser i ffwrdd yn ystod gwyliau'r ysgol (er bod hynny'n ddi-dâl yn aml). Hefyd, oherwydd y pwyslais ar addysgu plant, mae'n debygol y caiff materion yn ymwneud â gofal plant y tu allan i'r ysgol eu gwerthfawrogi a'u deall mewn ysgol. Mae rhai o'r farn bod ysgol yn 'gyflogwr sy'n ystyriol o deuluoedd' i ddefnyddio ymadrodd cyfoes. Yn ogystal, mae ysgolion yn weithleoedd lle gall gwybodaeth am blant a'u harferion fod yn werthfawr ac yn ddefnyddiol. Gellir ystyried ysgol gynradd yn gymuned o oedolion a phlant hefyd, lle mae person lleol yn debygol o deimlo'n rhan o rwydwaith cymdeithasol parhaus o ffrindiau, teuluoedd ac wynebau cyfarwydd lleol.

Gweithgaredd 3 Eich rhesymau

Timing: Dylech dreulio tua 20 munud ar y dasg hon

Gan ystyried y pwyntiau uchod, os ydych yn cyflawni rôl cymorth dysgu neu os hoffech wneud hynny, rhestrwch yn y blwch isod y rhesymau pam yr hoffech wneud y math hwn o waith.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Gwnaethom wahodd Mary-Jane Bayliff, cynorthwyydd addysgu sy'n gweithio mewn ysgol yn Dorset, i roi ei rhesymau dros weithio mewn ysgolion. Ysgrifennodd Mary:

I have always wanted to work with children. I had experience of work relating to children, for example at camps and in clubs. I felt my experience as a mother and childminder was a good foundation from which to start.I was keen to look after my own children during school holidays and during after-school hours. I had a particular interest in my own children’s school, having been a volunteer helper and member of the PTA. After seeing school through a parent’s eyes, I felt I had something of value to give, in terms of caring for children and bringing an understanding to home–school relations.

Yn amlwg, mae gan Mary-Jane lawer o brofiad blaenorol sy'n cyfrannu at ei gallu fel cynorthwyydd addysgu.

Ffigur 4 Gary Fookes, cynorthwyydd cymorth dysgu, Ysgol Sir Charles Lucas, Colchester