Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Beth yw gwerth cynorthwywyr addysgu?

Mae'r dystiolaeth o werth cynorthwywyr addysgu wedi cynyddu dros amser, yn enwedig mewn adroddiadau ymchwil. Yn eu harolwg o athrawon babanod yn Lloegr, nododd Kathy Hall a Wendy Nuttall (1999) fod 75 y cant ohonynt o'r farn bod cynorthwywyr ystafell ddosbarth mor bwysig â maint y dosbarth, neu'n bwysicach, o ran ansawdd addysgu a dysgu. Darparodd Valerie Wilson et al. (2002) dystiolaeth o'r Alban ac ychwanegodd Roger Hancock et al. (2002) dystiolaeth o Gymru a Lloegr. Mae cyfeiriadau at waith pwysig staff cymorth dysgu i'w gweld hefyd mewn adroddiadau arolygu ffurfiol gan y cyrff arolygu cenedlaethol. Yng Ngogledd Iwerddon, dywedodd adroddiad un prif arolygydd, ‘Evidence from inspection highlights the positive contribution made by classroom assistants, including those employed under the “Making a Good Start” initiative (MAGS), in helping to promote and support the children’s early learning and development.’ (ETI, 2002).

Ystyriodd yr astudiaeth fawr gan Blatchford et al. (2012) ddwy agwedd ar yr effaith:

  1. yr effeithiau ar athrawon o ran eu llwyth gwaith, eu boddhad yn eu swyddi a lefelau straen, a'u gwaith addysgu
  2. yr effeithiau ar ddisgyblion, o ran eu gwaith dysgu a'u hymddygiad, mesurau o ddulliau dysgu cadarnhaol a'u cynnydd academaidd mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.

Fel y gellir disgwyl o gofio'r astudiaethau ymchwil eraill a wnaed hyd at hynny, nododd yr ymchwilwyr fod cynorthwywyr yn cael effeithiau cadarnhaol ar athrawon a'u gwaith addysgu. Un peth a wnaeth beri syndod, fodd bynnag, oedd y 'gydberthynas negyddol' a nodwyd rhwng cymorth gan gynorthwywyr addysgu a'r mesuriadau o gynnydd academaidd disgyblion. Yn groes i synnwyr cyffredin, gwnaethant nodi ‘The more [teaching assistant] support pupils received, the less progress they made.’ (Blatchford et al., 2012, t.46). Efallai ei bod yn anodd credu hyn.

Fodd bynnag, nid yw'r awduron yn beio cynorthwywyr addysgu. Yn hytrach, maent yn egluro'r canfyddiad hwn drwy gyfeirio at ffactorau sy'n effeithio ar gyd-destunau gwaith cynorthwywyr, y ffaith nad ydynt yn cael eu briffio fawr ddim yn gyffredinol a'r angen i athrawon rannu'r sgiliau a'r wybodaeth ychwanegol sydd ganddynt. Serch hynny, mae ein cysylltiad â chynorthwywyr addysgu a'u gwaith dros gyfnod hir yn awgrymu bod y realiti yn llawer mwy cymhleth.