Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Barn plant a rhieni

Beth yw barn plant a rhieni ar gynorthwywyr addysgu? Mae'n ddiddorol nodi mai ychydig o wybodaeth sydd wedi'i chyhoeddi am eu safbwyntiau. Dangosodd astudiaeth fach â 78 o blant oedran cynradd yn Lloegr (Eyres et al., 2004) y gall plant, pan ofynnir iddynt wneud hynny, wahaniaethu rhwng eu hathro dosbarth ac oedolion eraill sy'n gweithio gyda nhw. Fodd bynnag, dywedodd y plant bod gorgyffwrdd sylweddol rhwng gweithgareddau athrawon a chynorthwywyr addysgu. Er enghraifft, dywedodd Sarah, wyth oed:

Well, the helpers seem to help out and do what the teacher does and the teacher seems to mostly teach children. But sometimes the helpers teach children.

Dywedodd Lissette, 11 oed:

Well, Miss McAngel is the actual teacher, teacher, teacher. She actually teaches us everything because she’s just a teacher and she teaches us everything. But, if you like, you’ve got another teacher, they teach us – pretty much they’d teach us everything but Miss McAngel would do different things with us – d’you know what I mean? – sort of, I can’t put it into words really – but – can you help? (looking towards Tim, her friend).

(Eyres et al., 2004, pp. 157–158)
Ffigur 5 Mae darlun Soraya, Blwyddyn 2, o'r oedolion sy'n gweithio yn ei hystafell ddosbarth yn dangos y newidiadau yng ngweithlu ysgolion cynradd

I raddau helaeth, roedd y plant yn yr astudiaeth hon yn teimlo bod athrawon a chynorthwywyr addysgu yn gweithio mewn ffyrdd 'rhyngddibynnol', gyda phob un ohonynt yn gwneud cyfraniad mawr i addysg y plant.

O ran rhieni, o gofio bod llawer o gynorthwywyr addysgu yn rhieni o'r gymuned leol, gallwn ddamcaniaethu bod rhieni eraill yn gyfarwydd â'r ffyrdd y mae athrawon wedi mynd ati'n gynyddol i ddirprwyo rhai cyfrifoldebau addysgu i gynorthwywyr. Ond efallai nad yw hyn yn wir. Wedi'r cyfan, mae cynorthwywyr addysgu yn weithlu cymharol newydd. Pan roedd rhieni heddiw yn yr ysgol gynradd, ni fyddent wedi cael profiad o gynorthwywyr yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon, fel y mae plant nawr.

Yn ôl holiadur gan ddau gynorthwyydd athro arbenigol yn Ysgol Gymunedol Roche yng Nghernyw (Strongman a Mansfield, 2004) a oedd yn holi am farn rhieni ar gynorthwywyr, gwelwyd bod y rhan fwyaf o rieni yn rhoi pwys mawr ar gyfraniad cynorthwywyr addysgu. Fel yr ysgrifennodd un rhiant, ‘They are of value as a backup for the teacher, as an extra pair of eyes in the classroom.’ Nododd rhiant arall, ‘A good assistant can be priceless in the classroom. With up to 37 children in each class, how could a teacher do her [sic] job effectively without assistants?’

Fodd bynnag, er bod y rhieni hyn yn cydnabod rôl bwysig cynorthwywyr yn ysgol gynradd eu plant, teimlai llawer ohonynt hefyd y dylai fod gwahaniaeth clir rhwng rolau athrawon a chynorthwywyr addysgu. Fel y dywedodd un rhiant, ‘Teaching assistants should not “teach” the class, they should only assist the teacher.’ Mae'n amheus i ba raddau y gall y gwahaniaeth ieithyddol hwn - rhwng 'addysgu' a 'chynorthwyo' - gael ei gynnal mewn ystafelloedd dosbarth lle mae llawer o athrawon a chynorthwywyr addysgu bellach yn cydweithio'n agos mewn timau. Pan fo cynorthwyydd addysgu yn 'cynorthwyo' neu'n 'cefnogi' neu'n 'helpu' plentyn, mae bob amser yn bosibl y bydd y plentyn yn dysgu. Felly, gellid dweud bod y cynorthwyydd wedi 'addysgu' y plentyn hwnnw, fel y gellid dweud bod rhieni yn addysgu llawer o bethau i'w plant a bod plant yn aml yn addysgu ei gilydd.

Efallai mai ffordd fwy priodol o ystyried hyn yw dweud mai athrawon, fel gweithwyr proffesiynol cymwys, sy'n bennaf cyfrifol am y gwaith addysgu a dysgu sy'n digwydd mewn ystafell ddosbarth. Mae'n ymddangos bod plant yn deall hyn. Yn yr astudiaeth gan Eyres et al. (2004) roedd nifer o blant yn gwybod yn glir mai'r athrawon yn eu hystafelloedd dosbarth oedd yn bennaf cyfrifol. Fel y dywedodd Sam, chwech oed:

Well, Mrs Wilson and Mrs Georgio [both teaching assistants] don’t tell us what to do. Mrs Watts [the teacher] tells us what to do.

(Eyres et al., 2004, p. 155)