Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Cyfraniadau unigryw

Yng Ngweithgaredd 1, gwnaethoch edrych ar rolau cymorth amrywiol Jean, sef cynorthwyydd cymorth disgyblion. Gadewch i ni nawr ystyried y gwaith hanfodol y mae cynorthwywyr yn ei wneud a'r ffordd y maent yn cyfrannu at waith ystafell ddosbarth yn ei gyfanrwydd.

Ai 'dim ond' cynorthwyo athrawon i wneud eu gwaith y mae cynorthwywyr addysgu? Os felly, mae'n ymddangos bod athrawon a chynorthwywyr yn cydweithio i gyflawni'r dyletswyddau y byddai athrawon wedi'u cyflawni ar eu pen eu hunain yn y gorffennol. Ar sail y dadansoddiad hwn, mae cynorthwywyr addysgu yn ymgymryd â dyletswyddau ar draws yr ysgol gyfan ac mewn ystafelloedd dosbarth y mae athrawon yn teimlo y gallant eu dirprwyo i gydweithiwr llai cymwys, ond nid llai profiadol o reidrwydd. Yn ymarferol, dylai hyn olygu bod gan athrawon amser 'sbâr' i wneud tasgau ychwanegol o'u dewis, am fod rhywun arall yn gwneud rhan o'u gwaith. Neu, efallai bod cynorthwywyr addysgu, yn rhannol, yn gwneud tasgau nad oes gan athrawon amser i'w gwneud eu hunain. Os felly, mae'r gwaith o addysgu dosbarth wedi 'ehangu', gan fod athrawon a chynorthwywyr addysgu yn dal i ddod o hyd i fwy na digon o waith i'w wneud.

Diben disgrifiadau swydd yw nodi'r gwaith y dylai cynorthwywyr addysgu ei wneud. Gellir ei rannu mewn categorïau fel 'dyletswyddau gweinyddol', 'paratoi adnoddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth' a 'gweithio gyda phlant'. Darparwyd fframwaith diddorol i ystyried rolau, dyletswyddau a ffocws gwaith cymorth gan yr Adran Addysg a Chyflogaeth (2000, para. 2.5), a awgrymodd bedair lefel o gymorth i'r canlynol:

  • disgyblion
  • yr athro
  • yr ysgol
  • y cwricwlwm.

Byddwch yn ystyried pa mor ddefnyddiol yw'r fframwaith hwn yn y gweithgaredd nesaf.

Gweithgaredd 4 Rolau a chyfrifoldebau

Timing: 1 awr

Darllenwch Deunydd Darllen 1 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , ‘Ten titles and roles’ gan Roger Hancock a Jennifer Colloby (2013). Mae'n cynnwys brasluniau o rolau a chyfrifoldebau deg aelod o staff cymorth dysgu.

Dewiswch un braslun sydd o ddiddordeb penodol i chi ac ystyriwch i ba raddau y mae'r teitl a'r rôl a ddisgrifir yn cysylltu â fframwaith pedair rhan yr Adran Addysg a Chyflogaeth. A yw'r fframwaith yn adlewyrchu eich wythnos waith yn ei chyfanrwydd neu, os nad oes gennych swydd cymorth dysgu ar hyn o bryd, eich syniad o wythnos waith cynorthwyydd addysgu?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Ffactor nad ydym wedi'i chrybwyll eto, ond sy'n effeithio ar y ffyrdd y caiff cynorthwywyr addysgu eu defnyddio, yw eu hyblygrwydd fel gweithlu. Caiff llawer eu cyflogi'n rhan amser, yn aml ar gontractau byrdymor a bydd eu tasgau'n newid yn rheolaidd. Dywedodd un cynorthwyydd ystafell ddosbarth wrthym, ‘My job description changes every term!’ Gall cynorthwywyr addysgu gael eu symud o gwmpas yr ysgol fel y gallant weithio gydag unigolion a grwpiau o blant yn ôl yr angen. Fel y gwyddoch efallai, yn Lloegr, cyflwynodd strategaethau llythrennedd a rhifedd cenedlaethol y llywodraeth nifer fawr o raglenni dal i fyny ('catch-up') ac atgyfnerthu ('booster') i blant nad ydynt yn cyflawni disgwyliadau. Mae cynorthwywyr addysgu wedi chwarae rôl flaenllaw yn y rhaglenni hyn, sy'n galw arnynt i fod yn hyblyg iawn gan eu bod yn gweithio ar draws grwpiau blwyddyn gyda phlant penodol.