Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4 Rôl ddatblygol yr athro

Ar y cyfan, cydnabyddir bod cyfraniad cynyddol cynorthwywyr addysgu yn cael effaith gadarnhaol ar rôl yr athro. Fodd bynnag, mae'n werth cydnabod bod llawer o athrawon wedi gorfod addasu eu hymarfer er mwyn gweithio gyda chynorthwywyr addysgu fel rhan o dîm. Mae llawer yn llwyddo i wneud yr addasiadau hyn. Rydym weithiau, fodd bynnag, yn clywed am athrawon sy'n ei chael hi'n anodd cydweithio'n dda gydag oedolyn arall yn yr ystafell ddosbarth. Er gwaethaf presenoldeb cynorthwywyr mewn ysgolion cynradd, mae hyfforddiant cychwynnol athrawon i raddau helaeth yn dal i ganolbwyntio ar athrawon yn gweithio mewn ystafelloedd dosbarth ar eu pen eu hunain yn hytrach na chydweithio ag oedolion eraill. Felly, efallai y bydd angen amser ar athrawon sydd newydd ennill statws athro cymwysedig (SAC) i benderfynu sut yr hoffent fynd ati i weithio mewn tîm ac, yn ei hanfod, y cysyniad o 'addysgu mewn tîm'.

Ffigur 6 Oedolion yn gweithio fel tîm i helpu disgyblion i ddysgu

Byddai'r rhan fwyaf, os nad pawb, yn cytuno bod cynorthwywyr addysgu o fudd sylweddol i athrawon a phlant a bywyd yr ysgol yn fwy cyffredinol. Fodd bynnag, er y dywedir bod cynorthwywyr addysgu yn lleihau baich gwaith athrawon, nid yw'r realiti mor syml. Er mwyn i athrawon gael budd o'r arbenigedd y gall cynorthwyydd addysgu hyddysg ei gynnig i'r bartneriaeth, mae angen iddynt ddod o hyd i amser i drafod a rhannu syniadau ar addysgu a'r cwricwlwm. Mae hyn yn debyg i'r rôl y mae athrawon yn ei chwarae wrth oruchwylio myfyrwyr ymarfer dysgu, gan fod cydgynllunio, cydaddysgu ac adborth yn nodweddion amlwg iawn o gamau cynnar eu hyfforddiant.

Darllenwn yn aml fod cynorthwywyr yn 'gweithio o dan oruchwyliaeth agos athrawon' neu fod athrawon yn 'rheoli' cynorthwywyr addysgu. Mae hon yn rôl feichus, sy'n mynd â chryn dipyn o amser addysgu athrawon a'r amser pan nad ydynt yn addysgu. Yn ogystal, mae'r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i athrawon gymryd cyfrifoldeb am ryngweithio dyddiol cynorthwywyr addysgu gyda phlant a goruchwylio eu gwaith cymorth. Yn wahanol i athrawon, ni all cynorthwywyr fod in loco parentis (o'r Lladin sy'n golygu, yn llythrennol, 'yn lle rhiant') ac felly ni allant gymryd y cyfrifoldeb cyfreithiol llawn sydd gan athrawon pan fo plant yn eu gofal. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gynorthwywyr addysgu gael eu harwain a'u cynorthwyo gan athrawon, nid yn unig o ran eu hymarfer i gefnogi'r cwricwlwm ond hefyd mewn meysydd gwaith allweddol fel iechyd a diogelwch ac amddiffyn plant.

Mae'r mwyafrif helaeth o athrawon yn cydnabod y rôl y mae'r gwaith ychwanegol hwn yn ei chwarae er mwyn creu gweithlu addysgu yn y dyfodol; at hynny, maent yn gwybod y gall rhannu arfer da ac arsylwi cydweithwyr eu helpu i ddatblygu eu rôl eu hunain. O gofio nad oes fawr ddim amser digyswllt mewn ysgolion cynradd, mae'n rhaid i gynorthwywyr addysgu ac athrawon reoli'r amser prin sydd ganddynt yn ofalus er mwyn cael trafodaethau cynhyrchiol.