Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Canolbwyntio ar ymarfer

Ffigur 7 Caroline Higham

Mae Caroline Higham yn gymharol newydd i'r rôl cynorthwyydd addysgu amser llawn. Mae ganddi ddau blentyn a gafodd eu haddysgu yn yr ysgol lle mae'n gweithio. Mae awyrgylch croesawgar yn yr ysgol ac mae arddangosiadau ysgogol ar y waliau.

Mae Caroline yn gweithio gyda grwpiau bach o blant yn ogystal ag unigolion ac yn y pen draw mae'n gobeithio dod yn athro cymwys. Mae wrthi'n astudio'n rhan amser i gwblhau gradd berthnasol.

Dros yr ychydig flynyddoedd y mae Caroline wedi gweithio yn yr ysgol, mae ei rôl wedi tyfu, a hynny o ran ei horiau gwaith a natur ei chyfrifoldebau. Mae'n gyfrifol bellach am drefnu a rhedeg rhaglen ddarllen yr ysgol ac mae'n gweithio'n agos gyda'r pennaeth, sy'n gyfrifol am yr agwedd hon ar y cwricwlwm. Mae Caroline yn gysylltiedig â'r gwaith o ailwampio llyfrgell yr ysgol a phrynu llyfrau newydd i'r llyfrgell. Mae'n mwynhau ei chyfrifoldeb cysylltiedig am gynnydd a chyrhaeddiad plant. Mae'n cadw cofnodion o'r plant unigol y mae'n eu cynorthwyo, ac mae'n diweddaru'r cofnodion hyn ar ddiwedd pob diwrnod ysgol ac yn eu rhannu â staff.

Mae Caroline wedi meithrin dealltwriaeth ynglŷn â sut mae plant unigol yn dysgu yn ogystal â'r rhwystrau i ddysgu y gallent ddod ar eu traws. Mae rhieni'n gofyn iddi'n aml am gyngor, ac mae'n rhaid iddi farnu'n ofalus pryd i drosglwyddo'r wybodaeth y mae'n ei chael gan rieni, ac unrhyw bryderon sydd ganddi am rieni, i'r staff addysgu. Yn ei rhan ei hun o'r ysgol, lle mae weithiau'n gweithio gyda grwpiau bach o blant neu unigolion, mae awyrgylch croesawgar ac arddangosiadau ysgogol ar y waliau.

Gweithgaredd 5 Rhoi cymorth

Timing: 1 awr 10 munud

Darllenwch Deunydd Darllen 2 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , ‘Support in a mathematics lesson’ gan Jennifer Colloby (2013).

Ar ôl i chi ddarllen y darn, edrychwch ar y rhestr ganlynol o dair safon CALU:

  • Dangos y gwerthoedd, yr agweddau a'r ymddygiad cadarnhaol a ddisgwylir gan blant a phobl ifanc (Safon CALU rhif 3)
  • Deall amcanion, cynnwys a deilliannau arfaethedig y gweithgareddau dysgu y maent yn cymryd rhan ynddynt (Safon CALU rhif 14)
  • Monitro ymatebion dysgwyr i weithgareddau ac addasu'r dull gweithredu yn unol â hynny (Safon CALU rhif 22).

Nodwch yn y blwch isod ym mha ffyrdd y mae Caroline yn cyflawni'r tair safon a ddewiswyd yn eich barn chi.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae Tabl 1 yn dangos ein barn ni:

Tabl 1 Cyflawni safonau CALU
Safon CALUYmarfer Caroline
3. Dangos y gwerthoedd, yr agweddau a'r ymddygiad cadarnhaol a ddisgwylir gan blant a phobl ifancMae'r ffordd y mae Caroline yn cyflawni ei rôl gymorth yn awgrymu bod ganddi'r sgiliau i annog plant i barhau i weithio pan fo angen, cadarnhau eu cyflawniadau a sicrhau bod ei grŵp yn cyflawni'r gweithgareddau a gynlluniwyd.
14. Deall amcanion, cynnwys a deilliannau arfaethedig y gweithgareddau dysgu y maent yn cymryd rhan ynddyntMae'n cyfleu diben y wers wrth ryngweithio â'r plant a thrwy'r cyfarwyddiadau y mae yn eu rhoi iddynt. Dangosir hyn gan ei gwybodaeth am ddiben y wers a'i hymwybyddiaeth o'r tasgau y mae angen i'r plant eu cwblhau.
22. Monitro ymatebion dysgwyr i weithgareddau ac addasu'r dull gweithredu yn unol â hynnyMae Caroline bob amser yn dangos ymwybyddiaeth dda o'r hyn y mae pob aelod o'i grŵp yn ei wneud. Mae'n addasu ei rhyngweithio a'i chymorth ar sail anghenion newidiol y plant.

Mae safonau - boed yn safonau galwedigaethol cenedlaethol i gynorthwywyr addysgu, safonau CALU neu'n safonau i ddyfarnu SAC - yn aml yn cynnwys llawer o syniadau ac arferion. Er enghraifft, mae safon CALU 14 uchod yn cynnwys tri syniad ynglŷn â gwersi. Pan gaiff safonau eu cysylltu ag ymarfer, rhaid barnu a yw enghreifftiau penodol o arfer yn cyflawni'r safon yn llawn neu'n rhannol a faint o dystiolaeth o arfer llwyddiannus sydd ei angen er mwyn bodloni'r safon. O'r disgrifiad o ymarfer Caroline yn y darn, mae'n ymddangos y gallai fod yn gymwys yn y tair safon a restrir yn y tabl.