Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Cynorthwyo, cefnogi ac addysgu

Y farn swyddogol ers tro ar rôl cynorthwywyr addysgu yw eu bod yn 'cynorthwyo' athrawon ac yn 'cefnogi' dysgu ac mae llawer o lunwyr polisi yn dal i feddwl am eu gwaith fel hyn. Mae awgrymu bod cynorthwywyr addysgu yn 'addysgu' plant wedi bod yn bwnc 'tabŵ' ond mae'n ymddangos bod hyn yn newid. Yng Nghymru a Lloegr, y bwriad yn wreiddiol oedd y byddai CALU yn gwneud gwaith 'cyflenwi' mewn gwersi a gynlluniwyd eisoes gan athrawon ond mae rheswm dros gredu bod sawl CALU yn addysgu mewn gwirionedd, yn enwedig am fod y cysyniad o 'gyflenwi' yn anochel yn golygu rhyngweithio â phlant a allai olygu bod oedolyn yn dod yn rhan o gydberthynas addysgu (Hancock et al., 2010; Sendorek, 2009). Mae disgrifiad y Brifysgol Agored o'i gradd sylfaen i gynorthwywyr addysgu yn nodi'n glir ei bod yn radd 'addysgu a dysgu' cynradd yn hytrach na gradd 'i gefnogi dysgu', er enghraifft. Awgryma Dillow (2010, t. 8) fod cynorthwywyr addysgu yn gwneud tasgau sy'n edrych fel tasgau addysgu, yn ogystal â thasgau cynorthwyo mwy traddodiadol. Dywed Blatchford et al. (2012) os oes gan gynorthwywyr addysgu ‘direct pedagogical, instructional relationship with pupils’ (t.140), eu bod, i bob pwrpas, yn addysgu.

Er bod 'cynorthwyo', mewn theori, yn dangos gwahaniaeth cysyniadol rhwng athrawon a chynorthwywyr, mae'n anodd iawn sefydlu'r gwahaniaeth hwn yn ymarferol. Y rheswm dros hyn yw bod effaith yr hyn y mae oedolion yn ei wneud gyda phlant mewn ysgolion yn dibynnu i raddau helaeth ar ymateb y plant i'r oedolion sy'n gweithio gyda nhw. Nid yw addysgu yn rhywbeth y gallwch ei wneud 'i' blant. Er mwyn llwyddo, rhaid eu cynnwys - rhaid addysgu 'gyda' nhw. Felly, mae plant bob amser yn asiantau yn yr ymdrech addysgu gan eu bod yn dylanwadu ar bu'n a fydd addysgu yn digwydd ai peidio. Felly mae'n gwneud synnwyr y gallai cynorthwyydd addysgu, o safbwynt plentyn, addysgu'n fwy effeithiol nag athro. Nododd Eyres et al. (2004) hyn mewn astudiaeth ar y gwahaniaeth rhwng athrawon a chynorthwywyr addysgu o safbwynt plant.