Transcript
Profi plant
Bachgen
Rwyf bob amser yn cael sgôr isel ac mae pawb yn cael sgôr uwch na fi ac nid wyf yn hoff iawn o hynny.
Merch
Byddaf yn cael popeth yn anghywir ac ni fydd unrhyw beth yn iawn ac mae hynny'n gwneud i mi bryderu.
Bachgen
Nid wyf wir yn hoffi profion gan eich bod yn cael llyfryn enfawr sy'n cynnwys tua 50 o gwestiynau a dim ond hanner awr i'w cwblhau.
Merch
Mae'n gwneud i chi bryderu oherwydd weithiau rydych yn rhuthro ac nid ydych yn cael yr atebion cywir.
Bachgen
Nid oes ots os oes rhywun yn well na chi mewn un pwnc oherwydd os ydych yn gwneud eich gorau, does dim ots.
Lloyd Hutchinson
Cyflwynodd y llywodraeth system ffurfiol o brofion mewn ysgolion cynradd yng Nghymru a Lloegr yng nghanol y 1990au.
Mae Andrew Pollard, Athro Addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt, wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth yn y maes hwn.
Andrew Pollard
Roedd bwriad clir gan y llywodraeth i sicrhau bod ysgolion yn fwy atebol. Felly dyna oedd prif ddiben y profion pan gawsant eu cyflwyno i ddechrau. Byddent yn darparu tystiolaeth i rieni. Byddent yn darparu tystiolaeth y gellid ei defnyddio i gymharu ysgolion a thystiolaeth y gellid ei defnyddio i greu safonau.
Lloyd Hutchinson
Ers eu cyflwyno, mae'r profion wedi gwella safonau academaidd ond maent hefyd wedi cael effaith nas rhagwelwyd ar blant.
Mae gan yr ysgol gynradd hon yng Nghanolbarth Lloegr 425 o blant rhwng pedair ac 11 oed.
Karen
Bore da, Luke.
Luke
Bore da, Miss?
Lloyd Hutchinson
Mae Karen yn addysgu plant pedair a phump oed yn y dosbarth Derbyn. Ei gwaith hi yw cynnal prawf llinell sylfaen ar y plant, fel arfer o fewn ychydig wythnosau ar ôl iddynt ddechrau yn yr ysgol.
Karen
Iawn. Mae gan bob un ohonoch set o rifau. Rwy'n mynd i ofyn i chi ddangos rhif gwahanol i fi. Dominic, elli di ddangos rhif naw i fi?
Rebecca, elli di ddod o hyd i rif chwech?
Nod asesiadau llinell sylfaen yn y bôn yw pennu lefel cyrhaeddiad y plant. Felly rydym yn defnyddio hynny mewn gwirionedd fel math o feincnod o ran ble i fynd o'r man hwn.
Elli di ddangos rhif deg i fi nawr?
I ddechrau, rydym yn rhoi trefn, gan adnabod rhifau er mwyn gweld faint o'r rhifau rhwng sero a deg y gallant eu dewis eu hunain a'u hadnabod. Rhoi trefn arnynt, er mwyn gweld a oes ganddynt ymwybyddiaeth o ddilyniant y rhifau, gan roi llinellau rhifau iddynt er mwyn iddynt allu cywiro eu hunain os byddant am wneud hynny ac nawr rydym yn cyfrif yn unigol er mwyn gweld p'un a allant gyfrif hyd at ddeg gwrthrych yn gywir.
Lloyd Hutchinson
Roedd canlyniadau'r prawf llinell sylfaen hefyd yn galluogi rhieni i asesu galluoedd eu plentyn.
Karen
Dyma lyfryn sydd eisoes wedi'i lenwi. O ran datblygiad personol a chymdeithasol, cânt radd A, B a C, ac C yw'r radd uchaf. Felly, os bydd rhieni yn gweld graddau A, yn enwedig os mai A oedd pob gradd, gall beri pryder iddynt, oherwydd weithiau efallai na fyddant yn teimlo bod cyfiawnhad dros y graddau hynny neu byddant yn teimlo nad yw fel hynny gartref.
Nawr, yn yr achos penodol hwn, mae'n eithaf braf i'w weld, oherwydd, fel y gwelwch, mae ganddo bedwar tic ond mewn rhai meysydd lle ceir o bosibl ddim ond un tic, byddech ar unwaith yn clywed cwestiwn fel 'a yw hynny'n iawn?', dyna'r cwestiwn arferol, ac, 'a ddylem fod yn gwneud pethau? A yw hyn yn normal?' Felly gall rhieni ddefnyddio'r llinell sylfaen i labelu eu plant, os byddant am wneud hynny. Os bydd ganddynt sawl tic, gallent benderfynu bod eu plentyn yn hynod glyfar ac os oedd ganddynt sawl croes, gallent, yn y pen draw, benderfynu nad yw eu plentyn yn glyfar o gwbl.
Andrew Pollard
Mae asesiadau yn rhoi rhyw fath o wybodaeth a gymeradwyir yn gymdeithasol i rieni am berfformiad eu plant nad oedd ganddynt cyn hynny. Felly mae'r sefyllfa yn dibynnu i raddau helaeth ar safbwynt y rhiant. Wrth gwrs, rydym am weld rhieni sy'n cefnogi dysgu'r plentyn mewn ffordd ddatblygiadol.
Yn amlwg, os bydd rhiant yn trin y plentyn yn llym mewn perthynas â chanlyniad mewn asesiad, yna bydd y plentyn yn teimlo mwy o bwysau o ganlyniad i hynny. Ac mae cryn dipyn o amrywiaeth, credaf, o ran ymateb rhieni.