Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Dysgu ac arfer: gweithrediad a hunaniaethau
Dysgu ac arfer: gweithrediad a hunaniaethau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Meddwl am natur gwybodaeth

Mae sawl damcaniaeth am ddysgu â gwahanol ddibenion gan eu bod yn pwysleisio gwahanol agweddau ar ddysgu. Nid oes damcaniaeth ddysgu 'fawr' na chyflawn ond mae pob un yn adlewyrchu gwahanol ragdybiaethau am natur gwybodaeth, natur gwybod a natur pobl fel dysgwyr, ac, felly, beth sy'n bwysig wrth ddysgu - beth y dylid rhoi sylw iddo. Mae'r syniad cymdeithasol-ddiwylliannol o ddysgu, a gyflwynir yn yr uned hon, yn herio ffyrdd traddodiadol o ystyried dysgu a sut i'w ategu sy'n cael effaith gynyddol mewn gwaith ysgrifenedig am ddysgu, boed yng nghyd-destun sefydliadau addysgol, y cartref neu'r gweithle. Y rheswm am hyn yw ei fod yn cynnig adnoddau i'ch helpu i ystyried beth allai fod yn atal y broses ddysgu.

Gweithgaredd 1

  • Pan fyddwch yn meddwl am wybodaeth, ble mae'r wybodaeth honno yn bodoli, yn eich tyb chi?
  • A allwch feddwl am enghraifft o'r hyn y byddech yn ei gydnabod fel gwybodaeth?
  • Beth y byddai pobl eraill, yn eich barn chi, yn nodweddiadol yn ei gydnabod fel gwybodaeth?

Gwrandewch ar yr eitem sain. Cyflwynir y clip sain hwn yn Saesneg, a cheir trawsgrifiad Cymraeg isod.

Download this audio clip.Audio player: e846_1_audio.mp3
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
  • Pa fath o farn am y wybodaeth sy’ i’w weld yma a sut y mae’n cymharu a’ch engreifftiau chi?

Gadael sylw

Yn yr eitem sain uchod, roedd gwybodaeth yn ymwneud i raddau helaeth â'r hyn y gallai plant ddangos eu bod yn ei wybod a'r hyn y gall athro ei 'weld' fel tystiolaeth o hyn. Yn nodweddiadol, mae'r broses o gasglu tystiolaeth o wybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i blant ysgrifennu'r hyn y maent yn ei wybod mewn ymateb i brofion a gaiff eu sefyll o dan amodau prawf er mwyn sicrhau mai gwybodaeth yr unigolyn yw'r hyn a gaiff ei asesu. Mae Andrew Pollard yn disgrifio canlyniadau asesiadau ysgolion fel 'gwybodaeth a gymeradwywyd yn gymdeithasol'. Soniodd Karen sut y gallai rhieni, ar sail hyn, ystyried bod eu plentyn yn 'glyfar iawn' neu ddim yn 'normal'. Yn y math hwn o drafodaeth, ceir disgwyliad bod 'normal' yn bodoli - unigolyn cyffredin, is na'r cyffredin ac uwch na'r cyffredin. Felly mae sut y byddwn yn ystyried gwybodaeth yn arwain at farn berthynol o bobl.

Gellid herio asesiad yr ysgol o blentyn os, fel y dywed Karen, 'nad yw hi fel hyn gartref'. Mae hyn yn berthnasol i raddau i'r cyd-destun ar gyfer dysgu ac i'r ffynonellau tystiolaeth a ddefnyddir i lunio barnau am unigolyn. Wrth lunio barn gymdeithasol-ddiwylliannol am ddysgu, rhoddir sylw i'r cyd-destun a sut y gallai ddylanwadu ar y synnwyr a wna unigolyn a beth sydd ar gael iddo ei ddysgu. Y rhagdybiaeth yw bod a wnelo dysgu â gwneud synnwyr ac, yn bwysig, na ellir rhoi ystyron; mae'n rhaid eu negodi.

Gweithgaredd 2

Defnyddiwyd yr eitem asesu ganlynol yn 1994, yn yr asesiadau mathemategol cenedlaethol o ddisgyblion 10-11 oed yng Nghymru a Lloegr. Dywedwyd ei bod yn asesu gallu'r plant i ddehongli diagramau ystadegol. Defnyddiodd Cooper a Dunne (2000) yr eitem yn eu gwaith ymchwil:

  • Gan edrych ar yr eitem, a allwch feddwl am unrhyw ffactorau a allai ddylanwadu ar ddealltwriaeth plant o'r dasg?
(Ffynhonnell: Cooper a Dunne, 2000, tud. 46)
Ffigur 1 Eitem prawf mathemateg: asesu gwybodaeth fathemategol plant

Gadael sylw

Canfu Cooper a Dunne anawsterau sylweddol gyda'r eitem asesu hon wrth gynnal asesiad prawf ohoni gyda 15 o blant, 10-11 oed. Er enghraifft, pan ofynnwyd iddo mewn cyfweliad sut y byddai'n ymateb i'r eitem, dywedodd un bachgen:

Is it - I think, really, boys just wear, like, plain old sporty socks, white socks - unless they're like teachers' pets - with the socks up here, and things - socks all the way up to their knees [pointing to his knees during this]. But the girls, the girls seem to have more pattern on their socks - they're white and they've got patterns on all of them. The boys have just got the old sporty things with something like sport written down them. Not much of a pattern.

(Cooper and Dunne, 2000, p. 47)

Wrth ymateb i'r eitem, canolbwyntiodd y disgybl ar y sefyllfa wirioneddol a gyflwynwyd ynddi - hynny yw, y mathau o sanau y mae pobl yn eu gwisgo. Iddo ef, nid oedd y data a gyflwynwyd yn cyfateb i'w brofiad o'r byd, ac yn wir, nid ydyw! O ganlyniad, gwrthododd ddilysrwydd y data ac ni allai weld unrhyw ddiben bwrw ati i ddehongli'r diagram. Yn eu gwaith ymchwil mwy a oedd yn cynnwys tair ysgol a 125 o blant, canfu Cooper a Dunne effeithiau bach ar draws eitemau gan ddynodi bod disgyblion o grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o wynebu anfantais o ganlyniad i eitemau a gafodd eu gosod mewn cyd-destunau realistig na disgyblion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, a thanamcangyfrifwyd eu cyflawniadau mathemategol posibl. Yn bwysig, pan ymgysylltodd Cooper a Dunne yn uniongyrchol â'r disgyblion i'w helpu i negodi cynnwys y dasg, gallai'r un disgyblion ddangos eu cyflawniadau mathemategol. O safbwynt cymdeithasol-ddiwylliannol, ni thybir mai bioleg yn unig sy'n pennu'r hyn a ddysgir; yn hytrach derbynnir potensial pobl i ddysgu drwy gydol eu hoes a gwrthodir y cysyniadau sy'n gysylltiedig â chredoau am gyflawniad 'normal'.