1.1 Dod o hyd i ystyr
Mae Cooper a Dunne yn disgrifio'r duedd i ddisgyblion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol penodol wneud defnydd amhriodol o wybodaeth bob dydd fel arwydd o fethiant cymharol i gydnabod natur hynod ddosbarthedig mathemateg mewn ysgolion ('relative failure ... to recognise the strongly classified nature of school mathematics' (Cooper and Dunne, 2000, p. 117)). O safbwynt cymdeithasol-ddiwylliannol o ddysgu, byddai deall dysgu fel proses o negodi ystyr y dylanwedir arni gan brofiadau unigryw'r unigolyn o fod yn y byd yn cael ei ddehongli fel methiant o fewn ystafelloedd dosbarth, a methiant gan aseswyr. At hynny, dylai dysgu am fathemateg mewn ysgolion alluogi myfyrwyr i ddysgu ym mha sefyllfaoedd y mae'n briodol ei defnyddio.
Mae damcaniaethau'r athronydd Sofietaidd Lev Vygotsky yn sail i ddamcaniaethau cymdeithasol-ddiwylliannol o ddysgu a damcaniaethau addysgol eraill. Ymhlith ei syniadau arloesol niferus, mae'r syniad am y gydberthynas rhwng yr unigolyn a chymdeithas yn arwyddocaol iawn. Dadleuodd fod gweithrediad meddwl unigolion yn deillio o arferion cyfathrebol cymdeithasol:
the social dimension of consciousness is primary in time and in fact. The individual dimension of consciousness is derivative and secondary.
Yr honiad hanfodol a wnaed gan gymdeithas-ddiwyllianwyr ar sail hyn yw bod unrhyw ystyron a feithrinir gan bobl yn deillio o ryngweithio gydag eraill yn gyntaf. Mae Sfard yn disgrifio'r safbwynt damcaniaethol hwn fel a ganlyn:
learning to speak, to solve a mathematical problem or to cook means a gradual transition from being able to take a part in collective implementation of a given type of task to becoming capable of implementing such tasks in their entirety and on one's own accord.
Yn deillio o hyn, er mwyn deall proses unigolion o wneud ystyr a dysgu o safbwynt cymdeithasol-ddiwylliannol, rhaid ystyried dysgu ar y cyd. Mae'n awgrymu hefyd mai nodau dysgu yw sicrhau cymhwysedd wrth gyflawni tasgau sy'n gymdeithasol gynhyrchiol.
Gweithgaredd 3
Gwyliwch y fideo. Cyflwynir y fideo hwn yn Saesneg, a cheir trawsgrifiad Cymraeg isod.
Transcript
Meddygon Iau
Sut y caiff dysgu a gwybodaeth eu disgrifio a'u dangos yma?
Unwaith eto, sut mae hyn yn berthnasol i'ch enghraifft chi?
Gadael sylw
Yn y dyfyniad, cyfeiriodd Prif Nyrs Selina Trueman yn benodol at gymhwysedd wrth ymgymryd â thasgau yn hytrach na gwybodaeth wrth sôn am sut mae meddygon iau ofn nyrsys sy'n gwybod yn union beth y maent yn ei wneud ('know exactly what they are doing'). Disgrifiodd cymhwysedd yn nhermau gwybod sut i wneud pethau; sut i lenwi siartiau cyffuriau ('how to write up drug charts') ac ati. Gwelsoch hefyd sut y gwnaeth Selina roi cymorth amlwg i un meddyg wrth iddi roi gwybod iddo sut i lenwi chwistrell, gan felly alluogi iddo ddysgu arferion newydd. Mae'r farn hon o ran yr hyn a ddysgir a sut y caiff ei ddysgu yn greiddiol i farn gymdeithasol-ddiwylliannol am ddysgu ac am wybodaeth ac mae'n herio'r syniad o wybodaeth fel rhywbeth a gaffaelir yn unigol ac sy'n eiddo i unigolyn. Roedd Prif Nyrs Selina Trueman yn egluro rhywbeth arall sy'n bwysig am ddysgu ac am natur arfer pan ddisgrifiodd sut y mae'n rhaid i feddygon iau, fel rhan o'r broses o ddod yn feddygon cymwys, ymgysylltu ag arfer. Wedyn daw gwybodaeth yn fater o gymhwysedd mewn perthynas â mentrau cymdeithasol gwerthfawr a chaiff yr hyn y mae unigolion yn ei wybod ei ddangos wrth iddynt anelu at hynny. Mae'r syniad hwn o wybodaeth yn newid yr hyn a gaiff ei asesu ac yn rhoi sylw i berfformiad a'r ddealltwriaeth sy'n sail iddo.
Mae Etienne Wenger yn ysgrifennu am y ffordd y mae pobl yn anelu'n barhaus at gyflawni mentrau a rennir:
As we define these enterprises and engage in their pursuit together, we interact with each other and with the world and we tune our relations with each other and with the world accordingly. In other words we learn.
Y dysgu cyfunol hwn sy'n arwain at arferion ac, fel y dadleua Wenger, mae'r arferion hyn yn eiddo i fath o gymuned a gaiff ei chreu dros amser ('the property of a kind of community created over time') (Wenger, 1998. p. 45). Mae'n cyfeirio at y cymunedau hyn fel 'cymunedau arfer'.