Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Dysgu ac arfer: gweithrediad a hunaniaethau
Dysgu ac arfer: gweithrediad a hunaniaethau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Crynodeb

Yn yr uned hon, rydych wedi ystyried dull cymdeithasol-ddiwylliannol o ddeall a dadansoddi'r hyn a ddysgir. Rydych wedi ystyried sut y mae hyn yn herio'r hyn a ystyrir yn draddodiadol fel dysgu mewn sefyllfaoedd ffurfiol a'r hyn a gaiff ei nodi fel cyflawniadau. Rydych wedi cael cyflwyniad cryno i'r ffordd y mae dylanwadau cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol yn llywio arfer a'r hyn sydd ar gael i'w ddysgu. Wrth ddwyn ynghyd y dysgu sy'n digwydd yn y mannau cymdeithasol/hamdden ac yn y gweithle a'i ystyried, mae safbwynt cymdeithasol-ddiwylliannol yn gwahodd ffyrdd o ailystyried sut rydym, er enghraifft, yn deall y gwahaniaethau rhwng y cartref a'r ysgol, gweithgareddau beunyddiol a gweithgareddau arbenigol, yr iard chwarae a'r ystafell ddosbarth a gwahaniaethau eraill a gaiff eu gwneud yn aml ar draws cyd-destunau. Yn bwysig, mae'r syniad hwn yn dadlau o blaid dysgu fel ffordd o negodi ystyr wrth i bobl ymgymryd â gweithgareddau cymdeithasol. Felly, fel rhan o'r syniad hwn, mae'n rhaid ailgysyniadu'r meddwl fel meddwl gweithredol. Mae deall dysgu fel ffordd o lunio hunaniaeth, a hunaniaethau fel mathau o gymhwysedd ('forms of competence') yn greiddiol i'r ffordd y byddwch yn dehongli arsylwadau a disgrifiadau cyfranogwyr wrth ddefnyddio dull cymdeithasol-ddiwylliannol. Wrth ystyried lleoliadau o safbwynt cymdeithasol-ddiwylliannol, ni thybir bod meddwl gweithredol ar waith; yn hytrach, ystyrir sut y caiff meddwl gweithredol ei gyfryngu a ph'un a yw'r broses hon yn grymuso ac yn ehangu gweithrediad neu'n ei ddadrymuso a'i gyfyngu.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]